Cwlwm

Cwlwm yw cylchgrawn Mudiad y Chiworydd. Cyhoeddwyd rhifyn arbrofol o “Cwlwm” yng ngaeaf 1988. Dywedodd Miss Mary Richards, y Llywydd ar y pryd, “Y mae yn hyfrydwch i mi gael y cyfle hwn i’ch cyfarch yn enw ein Gwaredwr Iesu Grist yn rhifyn cyntaf “Cwlwm”. Menter newydd yw, yn enw Mudiad Chwiorydd Bedyddwyr Cymru i hyrwyddo gwaith y Mudiad, trwy ein dwyn yn nes at ein gilydd a rhannu newyddion a gweithgareddau’r adrannau”.

Ar ddiwedd y rhifyn, diolchir i Mrs Mary Wynne Jones am fathu’r enw “Cwlwm” gan mai’r gobaith oedd y byddai ‘Cwlwm’ yn clymu Mudiad Chwiorydd Bedyddwyr Cymru a’i ganghennau yn y De a’r Gogledd yn nes at ei gilydd.

Dilynwyd y Rhifyn Arbrofol gan Rifyn 1 yn Ionawr 1989 ac am rai blynyddoedd deuai rhifyn allan ym mis Ionawr ac yn yr Haf. Yn 1995, newidiwyd hynny i gyd-fynd gyda chyfarfodydd Cenedlaethol y Senana ym mis Mai a’r Mudiad ym mis Medi er hwylustod dosbarthu’r copïau.

Braf yw dweud fod y Cwlwm wedi parhau i ddod allan ddwy waith y flwyddyn oddi ar hynny ac iddo fynd o nerth i nerth. Os oes gennych chi stori i’w rannu, byddai’r golygydd yn falch o glywed gennych.

Mrs Bonni Davies

Rhifyn Cyfredol – Medi 2021

Gallwch ddarllen y rhifyn cyfredol yma neu ei lawrlwytho:

Rhifynnau blaenorol