Ein Strwythur

Sefydlwyd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1866 ac mae gennym dros 8,000 o aelodau ar draws Cymru o fewn 11 o Gymanfaoedd. Mae yna ddwy Adran yn perthyn i’r Undeb, sef yr Adran Gymraeg a’r Adran ddi-Gymraeg. Mae’r ddwy Adran yn cydweithio’n agos, ond yn cynnal eu Cyfarfodydd Blynyddol ar wahân.

Y Gynhadledd Flynyddol

Llais Undeb Bedyddwyr Cymru yw’r Cynadleddau. Maent yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae gan bawb sy’n cynrychioli eglwys neu gorff yr hawl i bleidleisio ond croesewir cynulleidfa ehangach.  Mae’r Cynadleddau yn derbyn adroddiadau ac yn ystyried cynigion gan y Cyngor.

Mae’r gwaith o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i’r pedwar Bwrdd canlynol o fewn UBC sy’n ceisio gyrru gweinidogaeth, cenhadaeth, cyfrifoldeb cymdeithasol ac adnoddau.

Cynghorau

Y Cynghorau (Y Cyngor Cymraeg a’r Cyngor Di-gymraeg) yw cyrff cynrychiadol allweddol yr Undeb ac maent yn cyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn.  Maent yn gyfrifol am benodi, cefnogi ac annog yr Ymddiriedolwyr; adolygu bywyd yr Undeb; darparu cyngor ar newidiadau angenrheidiol; sefydlu Pwyllgorau; cyflwyno materion i’r Cynadleddau; ystyried penderfyniadau brys na ellir eu cyflwyno gerbron y Cynadleddau.

Ymddiriedolwyr UBC

Yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol ac yn atebol yn gyfreithiol am sicrhau bod UBC yn cyflawni eu nodau a’u hamcanion. Wrth ymgymryd â’u dyletswyddau mae’r Ymddiriedolwyr yn cydnabod y rhan allweddol sydd gan y Cynghorau a’r Cynadleddau. Maent yn cyfarfod bum gwaith y flwyddyn:

Caiff llawer o waith gweithredol yr Undeb ei roi i’r Byrddau a’r Pwyllgorau, fel a ganlyn:

Bwrdd Y Weinidogaeth

Aelodau Bwrdd y Weinidogaeth yw Ysgrifenyddion ac Arolygwyr y Cymanfaoedd, ynghyd â chynrychiolwyr Coleg y Bedyddwyr De Cymru a’r Coleg Gwyn. Mae’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Bwrdd y Genhadaeth

Mae Bwrdd y Genhadaeth yn cynnwys cynrychiolwyr y Cymanfaoedd ac unigolion sydd yn cyflawni gwaith cenhadol o fewn y Cymanfaoedd neu sydd â diddordeb mewn Cenhadaeth.  Mae’r bwrdd hefyd yn cynnwys sawl aelod cyfetholedig sydd wedi’u cyfethol i wasanaethu ar y bwrdd oherwydd profiad neu arbenigedd. Mae’r bwrdd yn cyfarfod dwywaith y flwyddyn i ystyried nodau a blaenoriaethau cenhadol yr Undeb a gosod cynllun gwaith i sicrhau y caiff y nodau hyn eu datblygu a’u cyflawni. Pan fo angen i drafod gwaith penodol, mae is-bwyllgor y Genhadaeth yn cyfarfod i ystyried y materion cyn cyflwyno adroddiad ac argymhellion i aelodau’r bwrdd. Mae Bwrdd y Genhadaeth yn cyflwyno adrodd i’r ddau Gyngor a’r Ymddiriedolwyr drwy’r Cyfarwyddwr Cenhadaeth.

Eglwys a Chyfrifoldeb Cymdeithasol

Pwrpas y Bwrdd yw cynnal trosolwg o’r grwpiau trydydd sector (e.e. Yr Ystafell Fyw, Citizens Cymru, Church Action on Poverty, Rhwydwaith ar gyfer Cyfiawnder Hiliol a.y.b.); hyrwyddo apeliadau ar ran Cymorth Cristnogol a’r BMS, paratoi datganiadau ar gyfer y cyhoedd mewn perthynas â materion cyfiawnder cymdeithasol ac annog eglwysi i weithredu pan fo hynny’n briodol.

Y Pwyllgor Cyllid

Pwrpas y Pwyllgor Cyllid yw gosod y gyllideb a monitro gwariant.

Dogfennau Pwysig

Cyfansoddiad UBC

Datganiad Preifatrwydd UBC