Hanes y Mudiad

Galwyd cynrychiolwyr Cymanfaoedd yr Undeb a’r Senana ynghyd i gynhadledd yn y Tabernacl, Caerdydd ar Fawrth 28, 1944 i drafod sefydlu Cymdeithas Chwiorydd yng Nghymru a phenderfynwyd cyfarfod eto ym Methany Caerdydd yn ystod wythnos yr Undeb ym mis Awst y flwyddyn honno i ffurfio Pwyllgor Gwaith. Cyfarfu’r Pwyllgor Gwaith hwnnw am y tro cyntaf yn Nhŷ Ilston ar Awst 31, 1944 ac yno y buont yn cyfarfod hyd wythdegau’r ganrif ddiwethaf. Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol cyntaf y Mudiad yn Llandrindod yn 1948.
Amcanion y Mudiad
- Dwyn ynghyd chwiorydd yr eglwysi a berthyn i Undeb Bedyddwyr Cymru yng ngwasanaeth yr Arglwydd Iesu Grist.
- Cadarnhau bywyd ysbrydol yr eglwysi.
- Hyrwyddo buddiannau Teyrnas Dduw.
- Cefnogi holl fudiadau’r Enwad.
- Uniaethu ein hunain yn ymarferol â phroblemau’r gymdeithas gyfoes.
- Hyrwyddo, sefydlu a chefnogi Cartrefi Henoed yr Undeb (Glyn Nest a Chartref y Gogledd)
- I hybu’r cysylltiad â’r eglwysi Bedyddiedig yn Ewrop ac yn fyd-eang.
Y Mudiad heddiw
Am dros 70 o flynyddoedd felly mae gwaith da wedi cael ei gyflawni gan aelodau Mudiad y Chwiorydd ar draws Cymru mewn amrywiol ffyrdd. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a fu’n cefnogi ar hyd y blynyddoedd ac os nad ydych eisoes wedi ymaelodi byddai’n braf petai eich eglwys yn ymuno gyda ni.
Mae’r eglwysi sydd wedi arfer ymuno, yn gwybod am y manteision o ddod yn rhan o deulu mawr o chwiorydd dros Gymru a’r byd. **Er mwyn bod yn rhan o’r teulu, nid yw’n ofynnol eich bod yn cyfarfod yn rheolaidd yn eich eglwys fel cymdeithas o chwiorydd.
Byddant fel eglwysi’n derbyn:
- Poster lliwgar y Mudiad
- Dau gopi o Cwlwm (Cylchgrawn y Mudiad) bob blwyddyn
- Gwybodaeth am weithgareddau’r Mudiad
- Copi o raglen Dydd Gweddi Chwiorydd Bedyddiedig y Byd
- Bob dwy flynedd – Copi o Brosiect y Mudiad (sef canllawiau effeithiol ar gyfer cynnal oedfaon yn eich eglwys).
Cylchgrawn Cwlwm
Cyhoeddwyd “Cwlwm” ers 1988 fel cylchgrawn a lansiwyd ‘i hyrwyddo gwaith y Mudiad, trwy ein dwyn yn nes at ein gilydd a rhannu newyddion a gweithgareddau’r adrannau’. Mae’n dod allan dwy waith y flwyddyn oddi ar hynny ac yn mynd o nerth i nerth o hyd. Mae ol-rifynnau a’r rhifyn cyfredol i’w gweld ar dudalen y cylchgrawn yma.