Y Gymdeithas Hanes

O bob un o’r enwadau Cymreig, bu’r Bedyddwyr ymhlith y mwyaf ffodus yn ei haneswyr. Gan ddechrau gyda Joshua Thomas a’i glasur Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry (1788), William Jones a’i Hanes Cymmanfa y Bedyddwyr Neilltuol (1831), David Jones Caerfyrddin a’i Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru (1839), a phedair cyfrol Spinther James Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru (1892-1907), cafodd y dystioleth Fedyddiedig ei chofnodi’n drylwyr megis o’r dechrau. Parhawyd y llinell ar hyd yr ugeinfed ganrif gyda W. J. Rhys a’i Penodau yn Hanes y Bedyddwyr (1949) a chyfrol safonol T. M. Bassett Bedyddwyr Cymru (1976) heb anghofio cyfraniad y cawr haneswyr y Dr Thomas Richards a’r Athro Glanmor Williams, a wnaeth gymaint at gyfoethogi’r dystiolaeth a gwarchod y traddodiad.

Ffrwyth yr ugeinfed ganrif oedd y Gymdeithas Hanes, a ffurfiwyd yn 1901 er mwyn meithrin cof yr enwad, a chasglu, dosbarthu a dehongli hanes yr eglwysi, eu gweinidogion ac olrhain arwyddocâd eu gweithgareddau. Prif gynnyrch y Gymdeithas yw’r Trafodion, a gyhoeddwyd yn flynyddol ond yn fwy diweddar am yn ail flwyddyn, fel ffocws ar gyfer ymchwil barhaol yn y maes. Yn ogystal â rhoi lle i’r Ddarlith Hanes, a draddodir yn rheolaidd fel rhan o weithgareddau Cynhadledd yr Undeb, ceir deunyddiau ychwanegol ar bob agwedd o’n tras. Erbyn hyn mae ymhell dros gan rhifyn o’r Trafodion ar gael, a’r bwriad maes o law yw trosglwyddo’u cynnwys i’r We er mwyn iddynt fod ar gael yn electronig ar gyfer  darllenwyr cyfoes.

Ymhlith llywyddion y Gymdeithas fu’r hanesydd a’r ysgolhaig B. G. Owens gyda D. Hugh Matthews yn olygydd hir-dymor y Trafodion. Y llywydd ar hyn o bryd yw D. Densil Morgan ac ef hefyd yw golygydd y Trafodion.

Revd D. Densil Morgan