Bob
blwyddyn, bydd ‘Cymanfa’ ranbarthol yn perthyn i Undeb Bedyddwyr Cymru yn ethol
un Llywydd i gynrychioli’r adain Gymraeg ac un i gynrychioli’r adain Saesneg. O
bryd i’w gilydd, etholir Llywydd i gynrychioli dwy adain yr Undeb. Ar ôl cael eu
sefydlu yn y gynhadledd flynyddol, mae’r Llywyddion newydd yn gwasanaethu
gyda’i gilydd gyda’r Llywyddion a’r Is-lywyddion fel rhan o’r ‘Tîm Llywyddol’.
Un o brif dasgau’r grŵp profiadol hwn o fenywod a dynion yw sicrhau perthynas
iach gwahanol rannau’r Undeb. Dyma’n llywyddion presennol:

Parch Ddr D. Densil Morgan
Llywydd (y ddwy adain)
Yn ddiwinydd ac ysgolhaig adnabyddus, mae Densil hefyd yn fugail ar nifer o eglwysi yn Nyffryn Teifi.

