BMS Cymru

Mae BMS World Mission yn cael ei gefnogi gan deulu cyfan y Bedyddwyr er mwyn gwneud gwahaniaeth ar draws y Byd, gan weithio o fewn i dros 30 gwlad o fewn i bedwar cyfandir.  Bydd gweithwyr a phartneriaid BMS yn ymdrechu bob dydd i wneud Iesu’n hysbys, gan rannu’r bywyd llawn a ddaw yn sgil hynny. O waith cyfreithiol i lawdriniaethau, o brosiectau bwyd i addysg, bydd BMS yn gweithio gyda phartneriaid lleol, gan ddarparu cymorth lle mae ei angen fwyaf, ymhlith y bobl fwyaf ymylol a lleiaf efengylaidd yn y byd. Byddant yn gwneud hyn diolch i gefnogaeth Cristnogion y Deyrnas Unedig, unigolion ac eglwysi, sy’n rhannu ei gweledigaeth am fyd a wneir yn well drwy ras Crist.