Senana Cymru

Cynhadledd Senana Cymru, 2019

Mae Senana Cymru yn sefydliad o Fedyddwragedd yng Nghymru sy’n cwrdd mewn grwpiau ardal i ddysgu am BMS World Mission, i weddïo dros y genhadaeth, ac i’w chefnogi’n ariannol. Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai, a hynny’n eglwys gartref y Llywydd newydd, a chynhelir y Gynhadledd Flynyddol yn Llanbedr Pont Steffan ym mis Medi. Mae’r Gynhadledd yn rhoi cyfle i glywed yn fanwl gan weithiwr i BMS World Mission am ei fywyd a’r man lle mae’n gwasanaethu, i weddïo drosto, yn ogystal ag i rannu mewn astudiaeth feiblaidd, gweddi a chymdeithas – a lletygarwch gwych!

Ffurfiwyd Cenhadaeth Zenana y Bedyddwyr (BZM) yn 1867, a hynny i gefnogi gwaith a ddechreuwyd gan genadesau ymhlith menywod Hindŵaidd y gast uwch a oedd yn byw o’r neilltu mewn zenanas, ardal deuluol breifat lle na allai unrhyw ddyn o’r tu allan i’r teulu fynd iddi. Yn 1854, roedd Mrs Elizabeth Sale wedi dechrau cwrdd â menywod yn y zenanas, a thrwy gynnig eu haddysgu i ddarllen a gwnïo, roedd hi a menywod eraill yn raddol yn gallu siarad wrthynt am Iesu. Roedd y cenadesau yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd addysgol i alluogi’r menywod Hindŵaidd i ddarllen yr Ysgrythurau drostynt eu hunain, ac arweiniodd hyn at sefydlu ysgolion zenana.

Gan fod yn well gan y menywod Hindŵaidd weld meddyg benywaidd, anfonodd y BZM Dr Ellen Farrer atynt. Llwyddodd i ennyn cariad ac ymddiriedaeth ei chleifion yn fuan, a bu’n eu gwasanaethu trwy newyn a phla. Datblygodd ei fferyllfa i fod yn ysbyty, ac ysgrifennodd werslyfr ar gyfer nyrsys a bydwragedd hefyd.

Ehangodd y BZM wrth i fenywod gael eu hanfon i Tsieina, Congo a Ceylon (Sri Lanka). Wrth i nifer y cenadesau sengl dyfu, roedd y BZM yn teimlo bod arni angen rhagor o gymorth, ac yn 1926 bu i’r genhadaeth uno â’r BMS, ond gan gynnal ei hadran ei hun yn y Gymdeithas – sef Cymdeithas Genhadol y Chwiorydd.

Er bod grwpiau Zenana yn Lloegr wedi cael eu hintegreiddio i mewn i grwpiau BMS World Mission, mae’r Senana yng Nghymru wedi parhau i fod yn sefydliad ar wahân. Nid yw’r grwpiau Senana mewn rhai ardaloedd yn cwrdd bellach oherwydd oedran cynyddol eu haelodau; fodd bynnag, mae’r menywod yn dal i gynnal gwaith Duw dramor yn nhraddodiad hirsefydlog y Senana, a hynny am eu bod, o’u cartrefi, yn parhau i roi arfau hanfodol yr Efengyl o gymorth ariannol a gweddi ar waith. 

Gyda diolch i BMS World Mission am ganiatâd i ddefnyddio deunydd o’i gwefan: bmsworldmission.org/heritage/women-in-mission

Deunydd darllen pellach:
The Baptists of Wales and the BMS 1792-1992 T.M. Bassett
Helaeth Gasglu L.E. Williams
Gathering Sheaves gol. Betty Davies
I’r Holl Fyd Irene Myrddin Davies

Parch. Suzanne Roberts