Cartref Glyn Nest

Gofal a gweini gonest ydyw arwyddair Glyn Nest.        

Ym mlynyddoedd cynnar y pedwardegau ymglywodd cwmni o wragedd â’r angen am hafan gartrefol ei naws a Christnogol ei hawyrgylch ar gyfer pobl oedrannus ac eiddil.  Croesewir ceisiadau oddi wrth unrhyw un sy’n dymuno byw mewn Cartref Cristnogol Cymreig. 

Agorwyd  y Cartref ar y Sadwrn olaf ym mis Medi 1970 ac fe’i lleolir mewn man dymunol a chyfleus i’r dref.  Cwblhawyd estyniadau sylweddol ym 1992 a 2009.  Mae ynddo le ar gyfer 28 o ddeiliaid gan gynnwys gwelyau i rai’n dioddef o ddementia ac yn fregus eu meddwl.  Cynhwysa’r adeiladgyntedd urddasol, lolfeydd helaeth, ystafell ymwelwyr, lifft ac ystafelloedd gwely sengl.  Bwriad y Cartref yw galluogi’r deiliaid i fyw bywyd cyflawn, drwy ofalu am bob unigolyn a sicrhau, hyd y gellir, bod eu hanghenion corfforol, seicolegol ac ysbrydol yn cael eu bodloni gan barchu eu preifatrwydd a’u hurddas.  Paratoirprydau bwyd maethlon yn ddyddiol gan gogyddion profiadol.  Darperir dietau arbennig yn ôl yr angen a phrydau i blesio chwaeth unigol.  Trefnir gweithgareddau ar gyfer y deiliaid yn ôl eu dymuniad.  Mae’r staff profiadol yn meddu ar Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol a derbynia’r staff a benodir o’r newydd hyfforddiant galwedigaethol yng nghwrs eu gwaith.  Gofelir am iechyd y deiliaid gan eu Meddygon Teulu gyda chynhorthwy staff y Gwasanaeth Iechyd.  Mae’r ffioedd yn amrywio yn ôl anghenion unigol ac maent yn cynnwys yr holl gostau gofal a llety, bwyd a diod, gwres a golau a’r golch a wneir ar y safle. 

Rheolir y Cartref gan Gwmni Cyfyngedig Ymddiriedolwyr Glyn Nest gydag atebolrwydd i Gorfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru.  Chwaraeir rhan bwysig ym mywyd y Cartrefgan aelodau’r Pwyllgor Tŷ.

Rhif y Cwmni: 5940276. Rhif Elusen: 1160563  Rhif ffôn: O1239 710 950.

Mae Glyn Nest yma’n estyn – ei nodded
Inni’n nyddiau’r terfyn,
Hafan glyd ar fin y glyn,
Annedd hoff i’n hamddiffyn

Parch. Irfon Roberts

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Glyn Nest.