Cofiannau

Greddf pob corff yw cofio ei gyfranwyr a’i aelodau gynt, nid yn unig i ddangos parch a diolchgarwch, ond i sylweddoli amrywiaeth helaeth y bobl a fu ynglŷn â’r gwaith. Wrth gasglu cofiannau’r gweinidogion a fu’n gwasanaethu Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru yn y gorffennol, nid casglu storïau amdanynt oedd y bwriad, ond nodi eu cefndir a’u cyfraniad. Ers y dyddiau cynnar bu cannoedd ohonynt, llawer heb dderbyn addysg ffurfiol, ond i’r eglwysi eu gwahodd i’r gwaith ar sail yr ymdeimlad bod Ysbryd Duw yn eu harwain. Byddai llawer o’r bugeiliaid cynnar yn gweinidogaethu’n ddi-dâl, tra yn derbyn cyflog o’u swyddi seciwlar. O’r dechrau, roedd rhai yn cael eu noddi i fynd i ganolfannau dysg, yr academïau ym Mryste, Hwlffordd, Y Fenni, Llangollen, ond wrth i Brifysgol Cymru ddatblygu o 1882 ymlaen, mudodd y colegau i Gaerdydd a Bangor. Stori arall yw stori’r colegau hynny, ac erys gwaith ymchwil i’w wneud ar hanes y canolfannau lleol a oedd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y colegau enwadol. Bydd cyfeiriadau yn y cofiannau hyn at Ysgol Ilston yng Nghaerfyrddin, Ysgol Powel Griffiths yn y Rhos ymhlith eraill, tra bu rhai gweinidogion fel y Parchg R. Parri Roberts, Mynachlogddu, yn gwahodd darpar-fyfyrwyr i aros ar eu haelwydydd er mwyn eu paratoi ar gyfer matriciwleiddio yn y colegau maes o law.

Wrth grynhoi’r hanesion hyn, roedd yn bwysig nodi cyfraniad y gweinidogion di-sylw yn ogystal â’r rhai amlwg, y rhai nad oeddent o bosibl wedi ymddangos ar y llwyfannau cyhoeddus mawr, ac nad oeddent efallai yn bregethwyr huawdl a phoblogaidd, ond a fu’n dystion ffyddlon i Grist gan dorri’r bara a rhannu’r gwin ymhlith eu preiddiau. Bu rhai gweinidogion yn gynhyrchiol iawn gan gyhoeddi llyfrau ac esboniadau, yn ysgrifennu i gyhoeddiadau fel Seren Gomer a Seren Cymru, tra bod eraill wedi ymroi’n ddyfal i sefydlu cymdeithasau pobl ifanc yn eu hardaloedd. Bu rhai yn hyrwyddo gwaith yr Ysgolion Sul a’r cyrddau gweddi, ac i eraill y wedd fugeiliol oedd yn hollbwysig. Bu rhai yn gwasanaethu fel Cynghorwyr Sirol, neu yn amlwg ym mywyd y gwasanaethau cymdeithasol o dan nawdd y Cynghorau Sir. Beth bynnag oedd eu cyfraniad, roedd pob un yn rhan o frodwaith amryliw a chyfoethog y weinidogaeth yng Nghymru.

Bron yn ddi-eithriad, cyfeirir at wragedd y gweinidogion hyn. Nid yn unig roeddent yn cadw tŷ a magu teulu, ond roedd amryw yn ymroddedig i waith o fewn yr eglwysi. Nodir fel y bu i rai ganu’r organ, i eraill fod yn athrawon Ysgolion Sul, neu yn amlwg yn hyrwyddo Mudiad y Gehadaeth. Eithriadau oedd y gwragedd a fyddai’n mynd i gynnal oedfaon tu allan i’w heglwysi lleol, er y byddai rhai yn gwneud.

Wrth ddilyn yr hanesion hyn, byddwn yn rhyfeddu bod Duw wedi galw pobl o bob cefndir a gallu, rhai yn ifanc ac eraill yn hŷn, ond bod gan bawb gyfraniad i’w wneud. Ceir sawl enghraifft o frodyr yn cael eu galw o’r un aelwyd, neu feibion i weinidogion yn teimlo fod Duw wedi eu harwain i ddilyn trywydd eu tad. Nid oes unoliaeth yn y patrwm, ar wahân i’r ffaith bod pob un yn tystio i law Duw eu cyffwrdd, a bod y dwyfol wedi eu cynnal ar hyd y daith, ni waeth beth oedd yr anawsterau.

Os digwydd bod gennych gyfraniad i’w rannu, neu gywiriad i dynnu sylw ato, yna cysylltwch gyda phrif swyddog Undeb Bedyddwyr Cymru i wneud hynny.

Parch. Denzil I. John.