Cyngor a Chymorth i Arweinwyr

Weithiau, bydd pethau’n mynd o chwith, neu byddwn yn taro ar broblem lle bydd angen help a/neu gyngor arnom. Er ein bod yn credu yn sofraniaeth pob Eglwys leol credwn hefyd na ddylid ynysu unrhyw Eglwys na Gweinidog. Trefnir Eglwysi’r Bedyddwyr felly mewn grwpiau daearyddol a elwir yn ‘Gymanfaoedd’ ac mae un ar ddeg ohonynt yn Undeb Bedyddwyr Cymru.

Yn y lle cyntaf, felly, y Gymanfa’n aml yw’r lle gorau i geisio cymorth a chyngor. Mae gan bob Cymanfa Arolygwr sydd fel arfer yn Weinidog profiadol. Mae gan Gymanfaoedd hefyd Swyddogion eraill y gellir galw arnynt am gymorth a chyngor fel y bo’n briodol.

Os fydd angen cymorth pellach, yna bydd Undeb Bedyddwyr Cymru bob amser ar gael i helpu ac, yn ogystal â’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Chydlynydd y Weinidogaeth, mae eraill a all gynorthwyo, er enghraifft, mewn materion sy’n ymwneud ag adeiladau eglwysig ac ymddiriedolaethau.

Cymorth Arbenigol

Os fydd Gweinidogion neu aelodau o’u cartref yn cael anawsterau penodol o ran eu hiechyd meddwl neu eu lles, mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn cynnig cymorth drwy ddwy asiantaeth:

  • Cynnal – gwasanaeth cwnsela dwyieithog cyfrinachol am ddim ar gael ledled Cymru i holl aelodau’r Clerigwyr, Gweinidogion yr Efengyl a’u teuluoedd: http://www.cynnal.wales
  • The Churches Ministerial Counselling Service – rhwydwaith o gwnselwyr proffesiynol Saesneg sy’n gweithredu yng Nghymru (a gweddill y DU) sy’n cynnig cymorth sybsidiedig i weinidogion a’u teuluoedd: http://www.cmincs.net

Polisiau a Gweithdrefniannau

Mae gan Undeb Bedyddwyr Cymru gôd ymddygiad ac ymarfer da ar gyfer y weinidogaeth achrededig, sydd hefyd yn cynnwys gweithdrefn gwyno: