Pwy Ydyn Ni

Pwy ydyn ni

Rydyn ni’n deulu o bobl ac eglwysi yng Nghymru, sydd yn dilyn Iesu yn yr 21ain Ganrif, ac yn etifeddu traddodiad cyfoethog o dystiolaeth Feddydiedig yng Nghymru. Sefydlwyd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1866 ac mae gennym dros 8,000 o aelodau ar draws Cymru o fewn 11 o Gymanfaoedd.

Ein nod yw cefnogi ein haelodau yn eu tystiolaeth mewn cyd-destun ôl Cristnogol a heriol. Rydym yn gwneud hyn drwy roi arweiniad a chyngor ar genhadaeth a gweinidogaeth ynghyd â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygu doniau. Fel teulu o Fedyddwyr, mae perthnasoedd yn bwysig iawn i ni ac mae cyfarfod â’n gilydd am anogaeth a chefnogaeth naill ai drwy’r Cymanfaoedd neu’r Undeb yn allweddol i’n gwaith.

Fel Undeb, rydym hefyd yn darparu cyngor mewn perthynas ag adeiladau, ymddiriedolaeth ac materion eraill sy’n ymwneud â llywodraethiant, tir ac eiddo.

Ein perthnasau

O fewn y Deyrnas Unedig, rydym yn gweithio’n agos gyda’n chwaer Undebau, Undeb Bedyddwyr yr Alban, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr (BUGB) a Rhwydwaith Bedyddwyr Iwerddon (IBN). Adlewyrchir hyn yng Nghymrodoriaeth y Bedyddwyr ym Mhrydain ac Iwerddon (FBBI). Bydd yr FBBI yn cyfarfod bob blwyddyn ac yn ymgasglu ar gyfer cymdeithasu a derbyn adroddiadau o’r gwaith cydweithredol a ymgymerir ag ef o fewn Cymuned Genhadol FBBI a’r Fforwm Gweinidogaethol. 

Mae gan Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ddwy Gymanfa’n gweithio yng Nghymru, sef Cymanfa Bedyddwyr De Cymru a Chymanfa’r Gogledd Orllewin. Mae gan nifer o eglwysi’r Bedyddwyr aelodaeth ar y cyd â’r rhwydweithiau hyn, sydd wedi arwain at berthynas agos o fewn y meysydd Cenhadol a Gweinidogaethol

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn aelod o Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) a Chyngor Eglwysi Rhyddion Cymru.

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn rhan o deulu byd-eang y Bedyddwyr sy’n cael ei rwydweithio drwy Gynghrair Bedyddwyr y Byd. Rydym yn aelodau o Ffederasiwn y Bedyddwyr Ewropeaidd ac yn mwynhau cysylltiadau da gyda’n brodyr a chwiorydd Ewropeaidd.