Grantiau Cenhadol

Mission Icon

Un o amcanion Undeb Bedyddwyr Cymru yw cefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth ar draws y Cymanfaoedd a cheisio annog mentrau cenhadol creadigol. Gwahoddwn Eglwysi a Chymanfaoedd, sy’n aelodau o’r Undeb, i ymgeisio am Grant Prosiect Cenhadol..

 

Faint o arian allwn ni wneud cais amdano?

Mae’r Grant Prosiect Cenhadol yn cynnig grant rhwng £1,000 a £3,000 y flwyddyn / hyd at dair blynedd. Dylai eglwysi sy’n chwilio am unrhyw swm llai ystyried gwneud cais i gronfa Genesis yr Undeb sy’n rhoi grantiau hyd at £500 i ddarparu adnoddau i fenter genhadol newydd.

Pa fath o ‘brosiectau cenhadol’ sy’n gymwys?

Bydd y grant Prosiect Cenhadol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi amrywiaeth o fentrau newydd cenhadol, yn ddibynnol ar eich cyd-destun lleol a’r weledigaeth y mae Duw wedi ei roi i chi i rannu Ei gariad yn eich cymuned.

Chi (ynghyd ag eraill) sy’n gallu dirnad orau beth y mae Duw yn eich galw i’w wneud, yn hytrach na rhywun o’r tu allan i’ch cyd-destun yn dweud wrthych beth sydd angen digwydd. Fe fydd gennych syniad llawer gwell am yr adnoddau sydd ar gael a beth fydd yn gam o ffydd.

Gofynnwn i chi fod yn weddigar, i fod yn ddychmygus, i gael eich ysbrydoli i wneud rhywbeth newydd, a lle mae’n bosib, i feddwl am sut allwch chi gyrraedd y llefydd a’r bobl nad yw’r eglwys yn eu cyrraedd ar hyn o bryd.

Beth sy’n annhebygol o ateb gofynion y Grant Prosiectau Cenhadol?

Prosiectau adeiladu, heblaw bod y cais yn gallu dangos fod prosiect sydd wedi ei diffinio’n glir yn cysylltu’n uniongyrchol â strategaeth genhadol yr eglwys.

  • Prosiectau mawr pan na fydd grant yn gallu gwneud gwahaniaeth arwyddocaol heblaw bod ffynonellau incwm mewn partneriaeth â’i gilydd.
  • Prosiectau y gallai’r eglwys neu’r Gymanfa eu hariannu eu hunain.
  • Prosiectau sy’n bodoli eisoes.
  • Beth am gynaliadwyedd?

Mae risg wrth ddechrau prosiect sydd wedi ei ariannu gan grant gan fod perygl na fydd y prosiect yn gynaliadwy unwaith i’r arian grant ddod i ben. Mae’r Grant Prosiect Cenhadol yn rhoi cymorth am 3 blynedd ac felly dylid meddwl ynghylch dyfodol y prosiect a sut i’w gynnal ar ôl y cyfnod hwnnw. Rydym yn cydnabod fod prosiect sy’n 3 blynedd o hyd yn well na dim prosiect o gwbl.

A fyddwch chi’n ein helpu i ddatblygu syniadau a ffurfio gweledigaeth?

Byddwn, wrth gwrs. Fe fyddem wrth ein boddau yn eich helpu! Rydym yn barod i gefnogi unrhyw eglwys, grŵp neu Gymanfa a fyddai’n hoffi ystyried beth y mae Duw yn eu galw i’w wneud.

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Mae’r cynllun Grant Prosiect Cenhadol i Eglwysi neu Gymanfaoedd sy’n aelodau o Undeb Bedyddwyr Cymru ac sydd wedi talu’r gyllideb gyfan am y tair blynedd ddiwethaf. Dylai unrhyw fentrau cenhadol newydd fod â chefnogaeth eu heglwys leol.

Faint o grantiau sydd ar gael?

Byddem yn hoffi helpu pob eglwys neu grŵp drwy gynnig Grant Prosiect Cenhadol iddynt, ond bydd rhaid siomi rhai, gofyn i eraill aros ac awgrymu bod angen mwy o waith i ddatblygu syniad cyn ei fod yn barod i gael yr arian sydd ar gael.

Ar hyn o bryd mae cyllideb ar gael ar gyfer tri Grant Prosiect Cenhadol i ddechrau gydaʼr nod o ychwanegu pedwerydd a phumed yn y blynyddoedd dilynol. Efallai bydd modd dyfarnu mwy o grantiau os na fydd cais am y swm llawn o £3,000 yn cael ei gyflwyno. Pan fydd un grant yn dod i ben gellir ystyried ceisiadau newydd.

Sut y gallwn ni wneud cais?

Gofynnwn ichi ddarllen y canllawiau sydd ar gael i’w lawrlwytho isod cyn cyflwyno cais.

Gweler isod ddau adroddiad gan eglwysi sydd wedi derbyn grant cenhadol yn barod.

Os hoffech wybod mwy am ein Grantiau Cenhadol, cysylltwch â ni!

Parch Simeon Baker – Cyfarwyddwr Cenhadaeth simeon@ubc.cymru
Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin. SA31 3EQ Ffôn: 0345 222 1514