Ysgol Haf y Gweinidogion

Un o’r elfennau gwerthfawr yn hanes Adran Gymraeg Undeb Bedyddywr Cymru oedd Ysgol Haf y Gweinidogion.  Cyfarfu ers 1926 yn Llanwrtyd, cyn symud i Cilgwyn ac yn 1965 cyfarfu’r gweinidogion yn Neuadd Non yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.  Byddai’r aelodau yn cyrraedd erbyn canol prynhawn dydd Llun ac yn gadael ar y dydd Iau neu Gwener. Daeth y trefniant hwn i ben yn 2000 ac am ychydig o flynyddoedd, trefnwyd cyfle i gyfarfod mewn gwestai yng Nghanolbarth Cymru, gyda’r Undeb yn noddi’r Ysgol.  

Yr arfer o’r cychwyn oedd i’r pwyllgor llywio drefnu rhaglen ar gyfer y flwyddyn ddilynol, o dan gadeiryddiaeth y Warden.  Byddai ysgrifennydd a thrysorydd yn bugeilio’r agweddau  a fyddai’n ymwneud â gweinyddiaeth a chyllid, a gwahoddid rhai o’r aelodau hŷn i ymuno gyda hwy wrth ffurfio’r pwyllgor.  Dewisid llyfr a fyddai’n faes astuduaeth am yr wythnos gydag aelodau’r Ysgol yn cyflwyno papur ar bennod benodol.  Gofalid bod cadeirydd gwahanol i bob sesiwn, ac ar ôl y ddarlith ceid cyfle i drafod y deunydd dan sylw.   Byddai myfyrdod Beiblaidd boreol yn syth ar ôl brecwast ac epilog ar ddiwedd y dydd. Yn aml, byddai’r tô ifancaf yn cael cyfle i arwain yn yr oedfaon hyn.  Gofalid fod amser hamdden hefyd a chyfle i’r aelodau grwydro’r tir, ac ymlacio.

Un o nodweddion amlwg y dydd oedd bod y gweinidogion yn cael amser i drafod eu profiadau ac i rannu gofidiau.  Byddent yn cael cyfle i finiogi meddwl a thrafod yn hamddenol, rai o bynciau y dydd , a byddai’r wythnos yn gwneud lles cymdeithasol a seicolegol enfawr i aelodau’r Ysgol.  Ers y 1960au trefnwyd bod darlithydd gwâdd yn ymuno am un sesiwn, gan gyflwyno darlith.  Yn aml byddai’n ddarlithydd mewn coleg, yn llenor neu wleidydd.  Yn ddieithriad, byddai’r deunydd yn Gristnogol ei natur, a’r amcan oedd ysgogi a miniogi meddyliau aelodau’r Ysgol. 

Gwelid ar un cyfnod fod carfannau diwinyddol yn yr ysgol, a bod yr academyddion yn cadw iddynt eu hunain.  Yn ôl tystiolaeth llawer, newidiwyd yr arfer answyddogol hwn yn ail-hanner y ugeinfed ganrif, a gwelwyd mwy o gymysgu gyda’r frawdoliaeth yn closio at ei gilydd a’r gymdeithas  yn gynhesach o dipyn fel canlyniad.   

Nifer fechan o frodyr fu’n swyddogion yr Ysgol Haf ar draws y cyfnod.  Edwin Jones oedd yr Ysgrifennydd cyntaf gyda T. J. Hughes yn gweithredu fel trysorydd. Cymerodd R. Gwyn Thomas yr ysgrifenyddiaeth yn 1937 a throsglwyddwyd y drysoryddiaeth i D. Myrddin Davies yn 1953. Cafwyd newid yn y ddwy swydd yn 1972, pan dderbyniodd Dafydd H. Edwards yr ysgrifenyddiaeth a Desmond Davies yn derbyn cyfrifoldeb y trysorydd. Yn 1979 cymerodd Peter Dewi Richards y drysoryddiaeth am flwyddyn nes i Eilyr Richards gyflawni’r gwaith o 1980 ac yna daeth y cyfrifoldeb y drysoryddiaeth ar  ysgwyddau profiadol Eurof Richards.

Tynnwyd llun yr Ysgol bob blwyddyn, gan gynnig copi o’r lluniau i’r sawl a fu’n bresennol . Cedwid copi yn albwm yr Ysgol ac yn yr adran hon o’r wefan, ceir cyfle i sylwi pwy oedd yn bresennol o flwyddyn i flwyddyn.  Noddid yr Ysgol gan garedigion o’r enwad, a fyddai’n estyn rhodd er mwyn lleihau’r gost i’r sawl a fyddai’n bresennol.  Mae’n debyg bod y diwrnodau hyn wedi bod yn fath o wyliau i nifer o’r brodyr ar draws y blynyddoedd, ac erys yr atgofion ohonynt yn drysorfa werthfawr.  Os digwydd bod gan unrhyw un gywiriad i’r enwau sydd wrth y lluniau, yna a fyddech cystal â rhannu’r wybodaeth gydag Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb. Bydd croeso hefyd os digwydd bod hanesyn gwahanol yn dod i law.  Diolch am y dyddiau da, y gwmnïaeth a’r gefnogaeth a rennid.  Brawdoliaeth fu hon am ddegawdau, ond erbyn troäd yr ugeinfed ganrif, roedd yn braf bod yna ferched yn y weinidogaeth a oedd yn barod i rannu yn y profiadau gwerthfawr hyn.

Parch. Denzil I. John