Ein Staff

Mae gan Undeb Bedyddwyr Cymru dîm bach o staff sy’n cydweithio i gefnogi’r cymanfaoedd, eglwysi a gweinidogion a gweinyddu bywyd yr Undeb.  Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am aelodau o staff a’u meysydd gwaith. Os hoffech gysylltu ag aelod o staff, gellid gwneud hynny drwy’r manylion cyswllt unigol a ddarperir isod neu drwy gysylltu â Swyddfa UBC.

Parchedig Judith Morris

Ysgrifenydd Cyffredinol
Mae Judith yn gyfrifol am weinyddiaeth yr Undeb ac yn rhinwedd ei swydd bydd yn darparu arweiniad a gofal bugeiliol i weinidogion, Eglwysi a Chymanfaoedd. Rhan bwysig o’i gwaith yw cynllunio gyda’r Byrddau ar gyfer y dyfodol er mwyn hyrwyddo’r ffydd Gristnogol a’r egwyddorion bedyddiedig.
Ebost: judith@ubc.cymru

Parch. Simeon Baker

Cyfarwyddwr Cenhadaeth
Mae Simeon yn cydweithio gyda Bwrdd y Genhadaeth er mwyn cefnogi ac annog yr Eglwysi a’r Cymanfaoedd yn eu cenhadaeth i ddatblygu ein blaenoriaethau drwy hyfforddiant, partneriaethau a phrosiectau.
Ebost: simeon@ubc.cymru

Bonni Davies

Cynorthwy-ydd Personol
Mae Bonni yn Gynorthwy-ydd Personol i Ysgrifennydd Cyffredinol UBC ac yn gyfrifol am weinyddu Byrddau a Phwyllgorau’r Undeb. Bu'n gyfrifol hefyd am baratoi'r Negesydd
Ebost: bonni@ubc.cymru

Nigel Vaughan

Swyddog Cyllid
Mae Nigel yn gyfrifol am weinyddu holl gyfrifon a chronfeydd yr Undeb a’r Gorfforaeth, gan gynnwys paratoi y gyllideb flynyddol a’r adroddiadau monitro ar gyfer yr Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Cyllid.
Ebost: nigel@ubc.cymru

Helen Wyn

Cydlynydd y Gorfforaeth
Mae Helen yn gyfrifol am weinyddu, cynorthwyo a darparu arweiniad i Eglwysi, Cymanfaoedd ac unigolion ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau a gweithredoedd. Bydd yn cynnig arweiniad pan fydd Achos yn dod i ben ac yn cynorthwyo gyda’r gofynion cyfreithiol. Mae hefyd yn gyfrifol am gysylltu gyda thenantiaid y Gorfforaeth er sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a chanllawiau Rhentu Doeth Cymru.
Ebost: helenwyn@ubc.cymru

Christian Williams

Cydlynydd y Gorfforaeth
a Swyddog Prosiectau
Mae Helen yn gyfrifol am weinyddu, cynorthwyo a darparu arweiniad i Eglwysi, Cymanfaoedd ac unigolion ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau a gweithredoedd. Bydd yn cynnig arweiniad pan fydd Achos yn dod i ben ac yn cynorthwyo gyda’r gofynion cyfreithiol. Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau penodol o fewn yr Undeb.
Ebost: christian@ubc.cymru

Gwen Vaughan

Gweinyddwr Swyddfa
Mae Gwen yn gyfrifol am waith gweinyddol y swyddfa – ateb y ffon, rheoli blwch ebost canolog yr Undeb yn ogystal a phrosesu’rpost. Mae hi'n helpu i gadw busnes yr Undeb i fynd, yn cynhyrchu'r Llawlyfr blynyddol ac yn rhedeg ein cronfa ddata. 
Ebost: post@ubc.cymru

Sioned Graves

Swyddog Cenhadaeth a Chyfathrebu Digidol
Mae Sioned yn gyfrifol am gyfathrebiadau mewnol ac allanol yr Undeb, gan gynnwys golygu'r Negesydd, edrych ar ôl ein gwefan, a churadu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae'r sianeli cyfathrebu yma yn cyfrannu at ail ran ei swydd: cefnogi'r Cyfarwyddwr Cenhadaeth i annog Eglwysi a Chymanfaoedd yn eu chenhadaeth yn rhannu newyddion da Iesu i Gymru'r 21ain Ganrif.
Email: sioned@ubc.cymru

Marc Owen

Cydlynydd y Weinidogaeth
Gan weithio'n agos gyda Bwrdd y Weinidogaeth a'r Tim Lleoli Enwadol, mae Marc yn helpu cydlynu gweithgarwch yr Undeb i gefnogi ac annog gweinidogion, myfyrwyr ac eglwysi.  O'r sgyrsiau cychwynol gyda'r sawl sy'n 'profi galwad' i'r weinidogaeth, i estyn cymorth i eglwysi gyda chwestiynau lleoli a helpu hwyluso gwahanol gyfleoedd hyfforddiant gweinidogaethol gan gynnwys y Cynllun Gweinidigion Newydd, bydd Marc yn gweithio'n agos gyda'r Ysgrifenydd Cyffredinol a'r Cyfarwyddwr Cenhadaeth i sicrhau bod y weinidogaeth ar draws yr Undeb yn derbyn pob cefnogaeth. Ebost: revmarcowen@gmail.com