Diogelu

Beth yw Diogelu?

Mae diogelu yn derm sy’n disgrifio’r swyddogaeth o amddiffyn oedolion a phlant rhag cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso ac mae hefyd yn cynnwys mesurau i rwystro pobl fregus rhag cael eu niweidio yn y lle cyntaf.

Mae diogelu yn rhan hanfodol o arferion a threfn lywodraethu pob sefydliad cyfrifol. Fel eglwysi, gan geisio adlewyrchu cymeriad a gorchmynion Iesu, yr ydym am wneud hyn hyd eithaf ein gallu ac yn gweithredu mewn modd teilwng o fewn ein cymunedau

Datganiad Polisi

Polisi Undeb Bedyddwyr Cymru yw diogelu lles plant, phobl ifanc ac oedolion bregus drwy eu hamddiffyn rhag esgeulustod a niwed corfforol, rhywiol ac emosiynol. Fel eglwysi rydym yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu lles ein haelodau a’r rheini a roddwyd yn ein gofal. Bydd aelodau’r eglwys, staff cyflogedig a gwirfoddolwyr ymddwyn mewn modd sy’n adlewyrchu egwyddorion yr Eglwys Gristnogol. Byddant yn dangos parch i hawliau dynol a dealltwriaeth ohonynt, yn hybu ethos o wrando a sicrhau diogelwch pawb yn arbennig plant ac oedolion bregus.

Bydd yr eglwys yn gofalu am blant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn eu diogelu drwy ddilyn arferion da mewn perthynas â’r canlynol:

  • Ymateb yn briodol i bryderon a honiadau
  • Recriwtio gweithwyr a gwirfoddolwyr yn fwy diogel
  • Hybu arferion gwaith da
  • Hyfforddi a chefnogi eu gweithwyr yn eu swyddogaeth ac mewn amddiffyn grwpiau bregus

I lawrlwytho datganiad polisi diogelu ar gyfer eich eglwys dilynwch y ddolen yma

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Panel Diogelu Cydenwadol ar faterion diogelu. Mae swyddog diogelu’r panel yw ein prif swyddog diogelu a dylid cysylltu‘n uniongyrchol ynglŷn  â pryderon a materion diogelu

Ein Polisi a Gweithdrefnau Diogelu

Mae’r canllawiau a’r cyngor yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn sail i bolisi mabwysiedig Undeb Bedyddwyr  Cymru ar gyfer gweithio gyda grwpiau bregus. Mae’n cynnwys canllawiau arfer da ar weithio gyda phlant ac oedolion bregus ac yn amlinellu beth i’w wneud os oes gennych bryder am unigolyn neu sefyllfa.

I weld neu lawrlwytho copi o’r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus 2022 ( gan gynnwys adrannau 1 a 2 wedi’u diweddaru ac atodiadau newydd)  cliciwch ar y llun neu’r ddolen hon  neu ewch yn uniongyrchol i’r adrannau unigol gan ddefnyddio’r dolenni isod:

Adran 1: Cyflwyniad a datganiad o fwriad a datganiad polisi’r eglwys unigol (adran newydd)

Adran 2: Recriwtio a dethol mwy diogel (gan gynnwys gwybodaeth gwiriadau DBS a siartiau llif (adran newydd)

Adran 3: Gweithio gyda phlant a phobl ifanc a sut i ymateb i bryderon

Adran 4: Gweithio gydag oedolion bregus a sut i ymateb i bryderon

Adran 5: Gofal Bugeiliol

Adran 6 Atodiadau a gwybodaeth i’ch cefnogi i weithredu’r polisi

Gyda  atodiadau newydd: 1 ,2a ,7 ,8  10)

Adran 7:  Ffurflenni i’ch cefnogi i weithredu’r polisi a gwybodaeth am GDPR

I lawrlwytho datganiad polisi diogelu ar gyfer eich eglwys diynwch y ddolen yma

Dylai’r gweithdrefnau a’r canllawiau fod ar gael i bob gweithiwr, arweinydd ac aelod o fewn yr eglwys.

Gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae’r Panel Diogelu Rhyngenwadol yn gyfrifol am brosesu gwiriadau DBS ar gyfer gweinidogion, gweithwyr, a gwirfoddolwyr. Caiff y rhain eu prosesu drwy’r swyddfa yn Ninbych gan Swyddog Gweinyddol y Panel, Sian Jones. Cysylltwch â Sian am ragor o wybodaeth ac i archebu ffurflenni DBS.

Email: sian@panel.cymru

Tel: 01745 817584.

Ein polisi ni yw adnewyddu gwiriadau DBS bob 4 blynedd.

Ar hyn o bryd rydym ond yn gallu prosesu ffurflenni papur.

Ewch i wefan y Panel  am fwy o wybodaeth am y broses DBS a chrynodeb o gymhwysedd.

Hyfforddiant Diogelu

Mae’r Panel Diogelu Cydenwadol yn darparu hyfforddiant diogelu ar gyfer eglwysi UBC.

Mae pob sesiwn hyfforddiant wedi selio ar ein polisïau a chanllawiau cyfredol.Nod yr hyfforddiant yw arfogi ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod nhw’n gyfarwydd gyda’n polisïau a gweithdrefnau ac yn gwybod sut i ymateb os ydynt yn poeni am unigolyn neu sefyllfa.

Mae hyfforddiant diogelwch yn orfodol ar gyfer gweithwyr plant ac oedolion bregus a rai sy’n gyfrifol am y gwaith- megis ymddiriedolwyr. Mae’n eich galluogi i gwrdd â gofynion yswiriant a’ r cyfrifoldebau eich capel fel elusen yn ôl y Comisiwn Elusennau.

Cysylltwch â swyddfa’r Panel i drefnu sesiwn ar gyfer eglwys neu Gymanfa

Panel Diogelu Cydenwadol

Sefydlwyd y Panel Diogelu Cydenwadol yn 2001 a ddaeth yn gwmni cyfyngedig drwy warant ddim ddim er elw yn 2009. Mae’r Panel yn cefnogi a chynghori eglwysi o fewn Undeb Bedyddwyr Cymru mewn arferion diogelu yng nghyswllt eu gwaith gyda phlant, phobl ifanc ac oedolion bregus. Gwneir hyn drwy gwaith polisi, hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth, gwaith achos a gwiriadu DBS.

Mae’r Panel yn gorff cofrestredig Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sy’n gyfrifol am brosesu’r gwiriadau DBS ar gyfer Undeb Bedyddwyr  Cymru o’r swyddfa yn Ninbych. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i archebu ffurflenni.

Cysylltwch â swyddfa Panel neu ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth am bob agwedd o ddiogelu o fewn yr eglwys ac i drefnu sesiynau hyfforddiant.

Panel Diogelu Cydenwadol
Unit 1 Vale Parc, Ystâd Ddiwydiannol Colomendy
Dinbych LL16 5TA
Ffôn: 01745 817584

post@panel.cymru

Sut i ymateb os oes gennych bryderon am unigolyn neu sefyllfa

Os ydych yn pryderi bod rhywun wedi cael ei gam drin neu os gweir honiadau uniongyrchol cysylltwch â Julie Edwards, Swyddog Diogelu.

01745 817584 / 07957510346  julie@panel.cymru

Mewn argyfwng cysylltwch â heddlu, ambiwlans neu wasanaethau cymdeithasol ar unwaith. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalen cyngor a chefnogaeh ar wefan y Panel neu yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus

PEIDIWCH BYTH a DIYSTYRU UNRHYW GONSYRN – Os nid ydych yn siŵr gofynnwch am gyngor.