Cymanfaoedd ac Eglwysi

Teulu o Gymanfaoedd ac eglwysi Bedyddiedig o bob cwr o Gymru yw Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae’r Undeb yn cynnwys un ar ddeg o Gymanfaoedd Bedyddiedig sydd wedi eu grwpio mewn rhanbarthau ledled Cymru.

  • Môn
  • Arfon
  • Dinbych, Fflint a Meirion
  • Maesyfed a Maldwyn
  • Brycheiniog
  • Gwent
  • Dwyrain Morgannwg
  • Gorllewin Morgannwg
  • Caerfyrddin a Cheredigion
  • Penfro (Saesneg)
  • Penfro (Cymraeg)

Yn ogystal ag eglwysi ledled Cymru, mae Eglwys Gymraeg Canol Llundain (Castle Street) hefyd yn Aelod o UBC.

Chwilio am Eglwys?

Mae gennym gyfeiriadur o eglwysi yma, sy’n rhoi lleoliad, iaith a phresenoldeb gwe (gwefan, sianel Youtube ayyb) i’r eglwysi.

Fel arall, cliciwch isod i lawr lwytho copi o’r Llawlyfr Blynyddol sy’n cynnwys rhestr lawn o Gymanfaoedd ac Eglwysi sy’n aelodau o Undeb Bedyddwyr Cymru. 

Llawlyfr UBC 2021

* Noder, yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data, ni allwn gyhoeddi manylion cyswllt unigol yr eglwys. Os hoffech gysylltu ag eglwys o fewn i UBC, cysylltwch gyda Swyddfa UBC.

Map Eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru