Sefydlwyd Cymdeithas Heddwch Bedyddwyr Cymru yn 1937, blwyddyn ar ôl llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, pan oedd Mussolini wedi dod i rym yn yr Eidal, Franco yn Sbaen a Hitler yn yr Almaen. Lai nag ugain mlynedd ynghynt roedd ‘y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel’ wedi dod i ben, ond roedd yr anniddigrwydd economaidd ar draws gwledydd Ewrop ac yn yr Amerig, yn peri ofn a phryder i lawer. Roedd chwalfa Wall Street wedi gwanhau economïau’r gwledydd gorllewinol, llywodraeth Weimar yr Almaen wedi’i dirwyn i ben yn 1933, ac Adolf Hitler wedi denu cefnogaeth gref yn y wlad honno.
Roedd y dystiolaeth o blaid heddwch wedi dechrau yn ystod y Rhyfel Mawr, gydag arweinwyr dylanwadol fel Hywel Cernyw Williams, E. K. Jones ac Wyre Lewis yn flaenllaw yn yr achos. Pan ddychwelodd amryw o fyfyrwyr diwinyddol adref, wedi’u dadrithio gan eu profiadau ar faes y gad, sylweddolwyd fwyfwy bod angen chwilio am ffyrdd amgen na rhyfel i ddatrys problemau’r gwledydd. Erbyn y tri degau, gyda’r arswyd y gallai rhyfel arall ddigwydd, aed ati i sefydlu
Cymdeithas Heddwch Bedyddwyr Cymru er mwyn tystio i egwyddorion cymod a thangnefedd yn unol â thraddodiadau gorau Ymneilltuaeth radical Cymru.
Wedi’r Ail Ryfel Byd, cyfnod ‘y Rhyfel Oer’ yn y chwe degau, a bygythiad difodiant niwclear, roedd y dystiolaeth heddychol yr un mor berthnasol ag erioed. Traddodwyd darlith flynyddol dan nawdd y Gymdeithas, sef ‘Darlith Goffa Lewis Valentine’ fel rhan o weithgareddau’r Undeb, a’i chyhoeddi a’i gwerthu drwy’r Cymanfaoedd. Ceir casgliad ohonynt yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac ymddiriedwyd y testunau i’r darlithwyr eu hunain. Derbyniwyd cyfraniadau gan y cefnogwyr, ac ers tro bu’r Gymdeithas yn estyn rhoddion ariannol i gyrff haeddiannol, megis Cymorth Cristnogol, Amnest Rhyngwladol a Chymdeithas y Cymod. Ni fu pwyllgor ffurfiol i’r Gymdeithas, ond ymhlith y cefnogwyr selocaf oedd pobl megis E.K. Jones, Wyre Lewis a Lewis Valentine. Yn ddiweddarach daeth D. Eirwyn Morgan, John Rice Rowlands, Idwal Wynne Jones, Emlyn John, Rosina Davies ac Einwen Jones i arwain a hyrwyddo’r gwaith.
Parheir i feithrin y gydwybod Gristnogol o blaid heddwch a chymod, a nod yr adran hon o’r wefan fydd crynhoi gwybodaeth bellach am y Gymdeithas Heddwch.
Parch. Denzil I. John