Hyfforddiant Cenhadol – Forge

Mission Icon

Gwyddom ond yn rhy dda am y darlun cyffredinol o Gristnogaeth yng Nghymru heddiw: eglwysi yn cau, nifer yr addolwyr yn lleihau, diffyg gweinidogion a phrinder swyddogion i ysgwyddo cyfrifoldebau. At hynny, digon cyfarwydd yw cael cynulleidfaoedd o dan 10 mewn nifer. Cawn ein herio yn aml i holi’r cwestiynau: pam nad ydym yn medru denu pobl i’r ffydd Gristnogol? Beth fydd cyflwr Cristnogaeth yng Nghymru ymhen deng mlynedd? Sawl capel fydd gan enwad y Bedyddwyr? A fydd yr Undeb a’r Cymanfaoedd yn bodoli? Dyma gwestiynau anodd ac anghyfforddus, ond cwestiynau sydd yn rhaid eu hwynebu. A oes yna ateb felly i’n sefyllfa heddiw?

Yn sicr un ateb yw cenhadu ac ymateb yn gadarnhaol i’r heriau amrywiol sydd yn ein hwynebu. Ond haws dweud na gwneud! Sut ydyn ni’n cenhadu mewn oes ôl-Gristnogol lle mae seciwlariaeth ar gynnydd a phobl yn gyffredinol yn gwbl ddifater am achos Crist?

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi penderfynu mynd ati i gydweithio gyda gŵr o’r enw Cameron Roxburgh o Ganada er mwyn iddo geisio ein cynorthwyo i genhadu yn ein sefyllfaoedd unigryw ein hunain

Mae Cameron Roxburgh yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol mudiad o’r enw Forge ac yn arweinydd Eglwys Gymunedol Southside Vancouver. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Is-lywydd Mentrau Cenhadol Bedyddwyr Gogledd America ac yn gyfrifol am nifer o gyhoeddiadau. Bu’n darlithio yn Athrofa Tyndale, Coleg Regent, Toronto a Chanolfan Cenhadaeth Coleg Diwinyddol Carey. Mae ganddo ystod eang o brofiad o gynorthwyo enwadau, grwpiau o eglwysi ac eglwysi unigol i fynd ati i genhadu o fewn eu cyd-destun lleol eu hunain.

Dyma fideo fer gan Cam sy’n esbonio pam mae hyfforddiant cenhadol yn daith bwysig i’r eglwys heddiw:

Mewn partneriaeth â Forge, mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi lansio rhaglen hyfforddiant genhadol ddwy flynedd ar gyfer eglwysi ac arweinwyr sy’n synhwyro’r angen i ddeall yr amseroedd a pharatoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd cenhadol sydd o’n blaenau yma yng Nghymru.

Gweithredu

Yn sgil dwy flynedd lwyddiannus a degau o eglwysi ar draws y wlad yn dilyn cyrsiau Darganfod ac Ethos, mae’r rhaglen Gweithredu ar gyfer eglwysi sy am barhau gyda’n taith genhadol.

Bydd yn cynnwys cyfle unwaith y mis nid yn unig i ddysgu ymhellach wrth Cam (uchod) ond hefyd i drafod gyda’n gilydd sut mae bywyd cenhadol yn mynd yn ei flaen yn ein heglwysi ni. Beth yw’r heriau? Beth yw’r llwyddiannau? Lle ydyn ni’n gweld Duw yn symud?

Gallwch gofrestru am ddim yma – ac mae croeso i eglwysi ac unigolion newydd ymuno ar y daith!