Talentau Gobaith

Mission Icon

Apêl 2023-24

Yn ystod haf 2023, fe lawnsion ni ein hapêl newydd, ‘Talentau Gobaith’ gyda Cymorth Cristnogol. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am gefndir yr apêl, gwaith Cymorth Cristnogol yn Simbabwe, a’r hyn yr ydych chi’n gallu ei wneud i ymuno…

Cefndir

Mae Newid Hinsawdd wedi gwneud bywyd yn anodd iawn ar gyfer nifer o ffermwyr ar draws y byd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn arbennig o wir yn Simbabwe, sydd wedi gweld llifogydd cynyddol, stormydd a sychderau hirfaith.

Mae hyn yng nghyd-destun tlodi ehangach yn y wlad, ar ôl blynyddoedd o ansefydlogrwydd gwleidyddol, troseddau yn erbyn hawliau dynol, ac economi gwan. Mae’r cyfuniad o’r ffactorau hyn yn golygu mai Simbabwe yw un o’r gwledydd tlotaf yn y byd ar hyn o bryd.

Fe wnaeth Covid-19 bethau yn waeth, gan arwain at godiad yng nghost grawn, y Clo mawr yn ansefydlogi patrymau ffermio a marchnadoedd, a cholled incwm ar gyfer nifer. Fe wnaeth hyn effeithio yn enwedig ar dyddynwyr a ffermydd raddfa-fach.

Gwaith Cymorth Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol (CC) yn gwneud gwaith holl-bwysig yng nghanol hyn. Mae CC wedi gweithio yn Simbabwe ers yr 1980au. Yn y blynyddoedd diwethaf, maent wedi rhoi pwyslais ar adeiladu gwytnwch ymhlith cymunedau lleol yn wyneb patrymau tywydd newidiol, yn ogystal â rhoi mwy o gyfleoedd i fenywod, ac agor marchnadau ar gyfer cymunedau tlotach.

Mae llawer o’r gwaith hwn yn cael ei wneud trwy’r prosiect BRACT , (Building Resilience through improving the Absorptive and Adaptive Capacity for Transformation of at-risk communities), which works in the Mutoko and Mudzi Districts of Mashonaland, partnering with Christian Aid.

Trwy hyfforddiant mewn dulliau ffermio newydd, mae’r prosiect wedi helpu teuluoedd i ddod yn fwy gwydn yn erbyn heriau tywydd eithafol, yn ogystal â’u helpu i amrywio eu ffynonellau incwm. Mae hyn yn help i fod yn llai dibynnol ar amaethyddiaeth, sydd yn gallu cael ei amharu yn wael gan adegau o dywydd eithafol.

Dyma gipolwg i’r hyn mae’r gwaith allweddol yn Simbabwe wedi ei gyflawni hyd yn hyn…

Mae Taindonzwa Kapfudzaruwa yn nain i saith. Yn ogystal â gofalu am ei hwyrion oherwydd bod eu rhieni yn gweithio yn Harare, prif ddinas Zimbabwe, a De Affrica, mae Taindonzwa hefyd yn gofalu am ei gŵr anabl ac yn rheoli fferm y teulu.

Mae Taindonzwa yn gresynu: ‘Dim ots pa mor galed oeddem ni’n gweithio doeddem ni ddim yn gallu gwella’r cynhyrchiant ac ambell i flwyddyn roedd y glawogydd gwael yn golygu nad oeddem yn medi unrhyw beth o gwbl. ’ Mae’n deall mai’r patrymau tywydd sydd wedi eu heffeithio gan Newid Hinsawdd sydd wedi gwneud tyfu bwyd mor heriol.

Ond mae gweithio gyda’r prosiect BRACT wedi trawsnewid ei bywyd.

‘Mae’r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned… Fe gawsom hyfforddiant hynod o ddefnyddiol ac fe hoffwn i petawn i wedi gallu mynychu mwy. Rwyf wedi gallu newid y ffyrdd yr wyf yn ffermio, hyd yn oed yn fy oed i. Caiff y wybodaeth hon ei rannu ag eraill a golyga hynny y bydd yr holl gymuned yn parhau i wella… un diwrnod bydd newyn yn perthyn i’r gorffennol.’

Ein hamcan

  • Amcan ‘Talentau Gobaith’ yw i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol a’r prosiect BRACT yn Simbabwe.
  • Rydyn ni hefyd eisiau cefnogi cymhwyso menywod yn Simbabwe trwy waith partner Cymorth Cristnogol, Ntengwe.
  • Ein hamcan yw gweld cymunedau yn parhau i gael eu cefnogi yn Simbabwe i addasu eu dulliau ffermio i Newid Hinsawdd ac i heriau ehangach, ac i adeiladu gwytnwch ar gyfer dyfodol positif.

Sut allwch chi ymuno

  • Dysgwch fwy am beth sydd yn digwydd yn Simbabwe (darllenwch fwy ein hadnoddau isod)
  • Gweddïwch am waith Cymorth Cristnogol, yn unigol neu gyda’ch eglwys.
  • Ystyriwch sut gallwch chi roi, a syniadau codi arian (cymrwch olwg ar rai o’n hadnoddau isod)
  • Anogwch eich teulu, ffrindiau, ac eglwysi i ymuno!

Adnoddau

Yn dod yn fuan…