Llan Llanast

Mission Icon

Ydych chi wedi clywed am Llan Llanast?

Efallai eich bod wedi clywed am Messy Church, sef yr enw Saesneg ar y fenter hon sy’n galluogi eglwysi/capeli i gyrraedd teuluoedd. Math o eglwys yw Llan Llanast, digwyddiad i’w gynnal yn ystod yr wythnos neu ar y penwythnos ac sy’n addas ar gyfer plant ac oedolion. Mae’r eglwysi sydd wedi mynd ati i gynnal Llan Llanast wedi gweld ei fod yn ffordd dda i wneud rhywbeth newydd ar gyfer pobl sydd heb unrhyw gysylltiad â chapel, neu bobl nad ydynt erioed wedi mynychu capel.

Beth yn union yw Llan Llanast?

Mae Llan Llanast yn eglwys yn ei hawl ei hun. Nid yw’n dilyn ffurf oedfa draddodiadol oherwydd y nod yw darparu rhywbeth sy’n addas ar gyfer teuluoedd nad sydd wedi mynychu eglwys o’r blaen. Ni ddylid ei gynnal ychwaith er mwyn denu mwy o bobl i’r cwrdd ar ddydd Sul; er y gallai hyn fod yn ganlyniad i Llan Llanast – nid dyna’r bwriad. Fel arfer, digwyddiad misol neu dymhorol ydyw, ond eto gall hyn amrywio.

Os oes gennych rai o’r amcanion a amlinellir isod, efallai bod Llan Llanast yn rhywbeth y dylech ei ystyried:

  • rydych eisiau gwneud disgyblion i Iesu Grist;
  • hoffech gynnal ‘eglwys’ sy’n addas ar gyfer pobl ar daith ffydd;
  • hoffech gyrraedd teuluoedd heb gysylltiad â chapel neu eglwys;
  • hoffech ddangos pwy yw Iesu i deuluoedd drwy waith crefft, cymdeithasu a dysgu anffurfiol.

Beth sy’n digwydd mewn Llan Llanast?

Mae pedair elfen i’r digwyddiad. Bydd Llan Llanast yn para tua awr a hanner i ddwy awr fel arfer. Rhaid dewis lleoliad addas – byddai festri neu neuadd gyda digon o ofod yn ddymunol, ond rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn lleoliad sy’n addas i blant. Dyma’r elfennau:

1. Croeso – mae croesawu pobl yn bwysig iawn ac yn gyfle i esbonio’n glir beth fydd yn digwydd fel y gall pawb deimlo’n gartrefol.

2. Crefft – dylid sicrhau bod nifer o fyrddau wedi’u gosod o gwmpas yr ystafell gyda chrefftau gwahanol arnynt – pob un yn gysylltiedig â thema neu stori o’r Beibl. Dylid sicrhau bod amrywiaeth o grefftau at gyfer pob oed. Bydd rhieni a phlant yn cymryd rhan gyda’i gilydd. Mae hyn yn gyfle arbennig i bobl ddod i adnabod ei gilydd, creu perthynas, a dysgu yn anffurfiol ar yr un pryd.  

3. Dathliad – cyfnod byr o 10-15 munud ar y mwyaf – i ganu cân, dweud y stori sy’n gysylltiedig â’r grefft a gweddïo. Bydd y stori yn cysylltu’r gweithgareddau crefft. Dyma gyfle i ddathlu Duw, gwaith achubol Iesu ar y groes, a’n bywyd fel cymuned a theulu Llan Llanast.

4. Bwyd – bydd y math o bryd a ddarperir yn ddibynnol ar yr adnoddau sydd ar gael. Anogir pobl i eistedd o gwmpas byrddau/blancedi picnic a chymdeithasu wrth fwyta – darlun o wledd teyrnas Dduw lle mae pawb yn perthyn!

Trwy’r bedair elfen hon, y nod yw rhoi cyfle i bobl adeiladu perthynas ac i’r tîm Llan Llanast ddangos pwy yw Duw mewn gair a gweithred. Mae hefyd yn ffordd o ddathlu Duw ac adlewyrchu ei natur greadigol. Hefyd, gan y croesewir pobl sydd ar gyrion yr eglwys mae lletygarwch yn bwysig iawn, yn ogystal â pharodrwydd i fod yn rasol ac i addasu yn unol ag anghenion gwahanol deuluoedd.

Os yw’r syniad yn apelio, mae llawer i feddwl amdano cyn bwrw ati. Y peth cyntaf yw ceisio cefnogaeth yr eglwys a gofyn i bobl i fod yn rhan o’r tîm trefnu; y mae’n fath o ddigwyddiad sy’n elwa o gydweithio, felly byddai’n werth ystyried cydweithio â chapeli neu eglwysi eraill sydd am estyn allan at deuluoedd.

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter arbennig hon ewch  i wefan Llan Llanast: www.messychurch.org.uk