CERDDED! Cymru a Zimbabwe

Mission Icon

CERDDED! Cymru a Zimbabwe

O fis Mawrth – Hydref 2024, rydym yn galw ar eglwysi, unigolion, a chymunedau ar draws Gymru i ymuno â ni mewn her newydd, fydd yn cryfhau ein cysylltiad gyda chymunedau yn Zimbabwe sydd yn ymateb i heriau enbyd Newid Hinsawdd.

Rydym yn galw ar deulu’r Bedyddwyr i ymuno â ni wrth i ni gerdded hyd dwy wlad: Cymru a Zimbabwe (750+ o filltiroedd)!

Talentau Gobaith

Mae apêl Talentau Gobaith ar gyfer 2023-24 yn ein cysylltu ni yng Nghymru gyda chymunedau amaethyddol yn Zimbabwe sydd yn cael eu heffeithio’n wael gan Newid Hinsawdd, effaith epidemigion, ac ansefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol hir-dymor.

Mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gwneud gwaith allweddol yn ymateb i’r heriau hyn trwy brosiect o’r enw BRACT (Building Resilience through improving the Absorptive and Adaptive Capacity for Transformation of at-risk communities), sydd yn anelu i gynyddu gwytnwch a ffyniant cymunedau amaethyddol yn Zimbabwe.

Gwelwyd y trawsnewidiad hwn ym mywyd Blessings Muzori. Aeth Blessings o sefyllfa o galedi enbyd wrth iddi bron orfod ‘begera am fwyd gan gymdogion’ fel ffermwraig, i fod yn aelod o fusnes lleol cynaliadwy a llwyddiannus yn y farchnad leol o ganlyniad i gymorth BRACT.

Eleni, mae cyfle i ni ymuno â’r gwaith holl-bwysig hwn yn Zimbabwe, trwy uno ein camau gyda’n brodyr a chwiorydd, fel Blessings, yn Zimbabwe…

 [Dyma’r] hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt:
dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru teyrngarwch,
ac ymostwng i rodio’n ostyngedig gyda’th Dduw.

Micah 6:8

750+ milltir ar draws Dwy Wlad

Rydym yn galw ar deulu’r Bedyddwyr, a’n cymunedau lleol, i ymroi i gerdded y nifer o filltiroedd y byddai’n cymryd i gerdded hyd Cymru a Zimbabwe gyda’i gilydd: o ben pellaf Cymru i’r llall, ac o ben pellaf Zimbabwe i’r llall (750+ milltir).

Pryd?

Bydd yr her cerdded yn para o ganol mis Mawrth tan fis Hydref: o gyfnod cynhaeaf Zimbabwe tan ein cynhaeaf ni yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch cerdded yn cael ei lawnsio ar y 12fed o Fawrth wrth i staff UBC gwblhau’r milltiroedd cyntaf yng Nghaerfyrddin.

Pam?

Gobeithiwn y bydd yn cryfhau’r cysylltiad rhwng ein dwy wlad, yn codi cefnogaeth i apêl Talentau Gobaith, ac yn rhoi tanwydd i’n gweddiau wrth i ni ‘gamu i esgidiau’ ein brodyr a chwiorydd yn Zimbabwe mewn ffordd lythrennol a throsiadol.

Beth sydd angen ei wneud?

Mae’r her yn syml… CERDDED!

Dros gyfnod mis Mawrth – fis Hydref, byddwn yn cyfri’r nifer o filltiroedd fydd yn cael eu cerdded o fis i fis, ac yn cadw cofnod o ble’r ydym ni yn ôl ein targed o 750+ milltir i gerdded ar draws Cymru a Zimbabwe.

Felly, rydym ni’n galw ar eglwysi, unigolion, a chymunedau – ewch amdani!

Sut fydd yr her cerdded yn gweithio?

  • Mae unrhyw un yn gallu cerdded: unigolion, grwpiau, eglwysi, neu aelodau o’r gymuned Mae pob milltir yn cyfri!
  • Byddwn yn cyfri’r milltiroedd yn ôl yr unigolyn (e.e 5 o unigolion yn cerdded x 3 milltir gyda’i gilydd = 15 milltir).
  • Llenwch y ffurflen isod i gofrestru ar gyfer yr her cerdded, ac i dderbyn e-bost i fewnbwn eich milltiroedd unwaith mae eich targed wedi’i gwblhau.
  • Rhannwch luniau neu straeon gydag Undeb Bedyddwyr Cymru ar gyfryngau cymdeithasol, gyda’r hashnod #talentaugobaithCERDDED

Sut mae trefnu teithiau cerdded ar gyfer yr apêl?

  • Trefnu taith gerdded grŵp (e.e i le hanesyddol diddorol lleol, neu i ardal o harddwch naturiol)
  • Trefnu taith gerdded unigol
  • Ymrwymwch i gerdded yn rheolaidd dros y cyfnod (e.e ymrwymo i gerdded 10 milltir ychwanegol y mis yn ystod yr apêll)
  • Trowch taith gerdded arferol (e.e taith i’r siop lleol) yn daith weddi neu’n daith i godi ymwybyddiaeth (e.e yn gwisgo lliwiau baner Zimbabwe!).

‘A rhodiwch mewn cariad, fel y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.’

Effesiaid 5:2

Sut mae codi arian?

Mae sawl ffordd i godi arian!..

  • Gallwch godi nawdd ar gyfer y milltiroedd y byddwch chi’n eu cerdded. (e.e gallwch addasu dudalen JustGiving Talentau Gobaith yma ar gyfer eich teithiau eich hunan).
  • Gallwch godi tâl i’r eglwys / gymuned ymuno â thaith gerdded mewn ardal neu leoliad diddorol neu gallwch ofyn am gyfraniadau gan y sawl sy’n dod ar daith (dilynwch y cyfarwyddiadau yma am sut i anfon rhoddion)
  • Gallwch ddarparu danteithion e.e pobi teisennau, a chodi tâl i fwynhau’r danteithion ar ddiwedd y daith, neu drefnwch ddigwyddiad ar ddiwedd y daith.
  • Defnyddiwch adnoddau apêl Talentau Gobaith i addysgu’r rhai sy’n mynychu am waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Zimbabwe, a sut maen nhw’n gallu cyfrannu, ac ewch i’n tudalen Rhoi a Chodi Arian i ddarganfod mwy am sut gallwch anfon rhoddion.

Un peth sydd ar ôl… ewch amdani!

Cadwch lygaid ar ein tudalen Facebook ac X dros yr wythnosau a misoedd nesaf i glywed y diweddaraf o’r ymgyrch CERDDED!, a straeon a diweddariadau o apêl Talentau Gobaith.