Cyngor Ysgolion Sul

Mission Icon

Ers blynyddoedd lawer, mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi gweithio yn agos gyda Chyngor Ysgolion Sul Cymru a sefydlwyd i hyrwyddo a chefnogi gwaith Ysgolion Sul ac addysg Gristnogol drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae gan y Cyngor pump gwefan sy’n darparu adnoddau, deunyddiau ac arweiniad ar gyfer ystod eang o waith Cristnogol yn enwedig gwaith ymhlith plant, pobl ifanc a theuluoedd.

www.ysgolsul.com
Gwefan swyddogol y Cyngor, sy’n cynnwys gwybodaeth a newyddion am eu gwaith, yn ogystal â siop ar-lein a siop ddigidol i brynu llyfrau ac adnoddau digidol i’w lawrlwytho.

www.cristnogaeth.cymru
Gwefan gyffredinol sy’n ffynhonnell gwybodaeth am bopeth ac unrhyw beth yn ymwneud â Christnogaeth yng Nghymru.

www.gair.cymru
Gwefan sy’n cynnwys deunydd Cristnogol Cymraeg i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, gan gynnwys gwersi ysgol Sul, gwasanaethau ar gyfer cynnal oedfaon, gweddïau a myfyrdodau, ffilmiau, cyflwyniadau PowerPoint, deunydd defosiwn dyddiol, gwasanaethau ar gyfer ysgolion a sgyrsiau plant.

www.beibl.net
Gwefan sy’n cynnwys testun y Beibl cyfoes beibl.net, ynghyd â llawer o adnoddau cysylltiol eraill.

www.gobaith.cymru
Gwefan sy’n cynnwys dros fil o emynau a chaneuon Cristnogol cyfoes ar ffurf geiriau yn unig ac fel ffeiliau Powerpoint y gellir eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

Am ragor o wybodaeth am waith Cyngor Ysgolion Sul cysylltwch â’r Cyfarwyddwr, Parchg Aled Davies. Ffôn 01766 819120 E-bost. aled@ysgolsul.com