Noddi Gweithwyr

Mission Icon

Fel nifer o wledydd yng ngorllewin Ewrop mae’r gydnabyddiaeth y gellir ystyried Cymru bellach yn faes cenhadol wedi gweld Cymru’n croesawu cenhadon o dramor i helpu’r eglwys leol yn ei chenhadaeth.

Wrth gydnabod hyn, mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi ymateb i ymholiadau o dramor i weld a fyddem yn elwa o bartneriaethau cenhadol. Pan nad yw eglwysi’n gallu darparu  gweinidogaeth a chenhadaeth, gobeithiwn gysylltu cenhadon o’r tu allan i’r DU gyda phrosiectau posibl.

Gyda chymeradwyaeth Ymddiriedolwyr UBC rydym bellach wedi cofrestru’n llwyddiannus gyda Fisau a Mewnfudo y DU i noddi gweithwyr Haen 5 (Gweithwyr Crefyddol) a Haen 2 (Gweinidogion yr Efengyl) o’r tu allan i’r DU. Mae hyn yn gofyn am oruchwyliaeth ofalus er mwyn sicrhau bod unrhyw weithwyr a noddir fel partneriaid gydag UBC yn deall cyd-destun a diwylliant Cymru.

Dylai unrhyw unigolion, eglwysi neu sefydliadau sy’n synhwyro galwad gan Dduw i weithio yng Nghymru gydag Undeb Bedyddwyr Cymru gysylltu â’r Cyfarwyddwr Cenhadaeth, sef y Parchg Simeon Baker a fyddai’n hapus i ddarparu rhagor o wybodaeth.

Parchg Simeon Baker, Cyfarwyddwr Cenhadaeth: Ffôn 0345 222 1514. E-bost simeon@ubc.cymru