Bod yn bresennol yn y gymuned

Mission Icon

Mae sawl ffordd greadigol o estyn allan i’ch cymuned er mwyn ymuno a gwaith Duw yno a rhannu Iesu gyda’ch cymdogion, mewn gair a gweithred.

Mae rhai o’r rhain yn fodelau cyfarwydd y mae eglwysi wedi bod yn eu rhedeg ers degawdau, fel bore coffi neu grwp mam-a’i-phlentyn.

Ond dros y blynyddoedd diweddar ymddangosodd ffyrdd newydd, creadigol i ymateb i’r gymdeithas o’n hamgylch:

Pantri cymunedol, banciau bwyd a ‘fareshare’

Roedd Iesu’n bwydo pobl; boed hynny’n grwpiau o filoedd neu yn giwed o’i ddisgyblion ei hun, byddai Iesu’n gweinidogaethu i’r sawl oedd o’i gwmpas gan ddefnyddio bwyd. Dyma rai ffyrdd cyfredol y gallwch chi fel eglwys gwrdd ag anghenion ymarferol tra’n adeiladu perthynas gyda phobl:

  • Daeth Banciau bwydyn rhan o’r dirwedd ar draws Cymru, gan ddarparu bwyd i bobl a allai fel arall cael trafferth i gael gafael ar ddigon ohono. Gallwch unai rhedeg un eich hun fel eglwys neu gefnogi un yn eich ardal trwy wirfoddoli neu roi eitemau. Y mae rhedeg un yn ymrwymiad mawr – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Start a Food bank – The Trussell Trust
  • Fareshare – bydd y cynllun hwn yn aml yn rhedeg ochr-yn-ochr a banciau bwyd gan ddarparu bwyd ffres i fynd gyda’r bwyd tun ddaw o’r banc bwyd: FareShare | Fighting hunger, tackling food waste in the UK
  • Pantri cymunedol Math o go-op bwyd lleol yw hwn lle bydd pobl yn talu ffi aelodaeth o £3.50 ac yna’n gallu dewis o leia 10 eitem o blith detholiad o fwydydd yn wythnosol. Yn wahanol i fanciau bwyd, does dim rhaid i bobl gael eu cyfeirio’n swyddogol at y rhain a’r nod yw eu bod ar gael i bawb yn y gymuned: Your Local Pantry

Gofod cynnes

Yn anffodus, mae’r anghenion yn ein cymdeithas wedi tyfu i’r fath raddau fel bod mannau cynnes wedi dod yn anghenraid i lawer ledled y wlad, gyda mannau cynnes yn ymddangos mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac hyd yn oed amgueddfeydd. Ond mae cyfran fawr o’r gofodau hyn yn cael eu rhedeg gan eglwysi, ac mae llawer o’n heglwysi Bedyddiedig wedi teimlo’r alwad i weld sut y gallant ddefnyddio eu cyfleusterau i gyfrannu at gyrraedd yr angen mawr yma – gan gyfuno’r angen am gynhesrwydd sylfaenol gyda bwyd a chwmnïaeth. Os ydych chi’n gwresogi eich adeilad ar gyfer digwyddiadau sy’n agored i bawb yn ystod y gaeaf, pam ddim cofrestru’r gofod fel man cynnes?

Dyma ambell beth i ystyried wrth redeg man cynnes:

  • Cost a chapasiti Oes gyda chi ddigon o bobl i agor a rhedeg y gofod yn addas, gan sicrhau ei fod ar agor yn wythnosol?
  • Y gymuned Does dim budd mewn cystadlu gyda grwpiau eraill yn yr ardal – pam ddim cydlynu a chefnogi eich gilydd?
  • Cofrestru Gwiriwch beth arall sydd ar gael yn eich ardal a nodwch pan fydd eich un chi’n agor yma : Find a Warm Welcome Space Today (gall fod tudalen debyg gan eich cyngor sir hefyd)
  • Ariannu Allwch chi ariannu’r biliau ar gyfer y gofod y byddwch yn ei ddefnyddio? Ar hyn o bryd mae rhai grantiau ar gael o gynghorau lleol a’r llywodraeth ar gyfer hyn; mynnwch sgwrs er mwyn darganfod a fyddai eich gofod chi’n ddilys i dderbyn wrthynt.
  • Bwyd; mae llawer o ofodau cynnes a drefnir gan eglwysi yn cynnwys ffocws ar bryd bwyd: https://ubc.cymru/gofod-cynnes/

Caffi trwsio

Mae caffis trwsio yn syniad newydd ac arloesol. Yn fyr, digwyddiadau yw’r rhain sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd a lle bydd y gymuned yn medru dod ag eitemau cyffredin o adre sy wedi torri i gael eu trwsio gan wirfoddolwyr. Gallant fod yn bethau sy wedi cael eu difrodi neu eu torri ac fe gant eu trwsio am ddim gan wirfoddolwyr. Enghreifftiau yw dillad, nwyddau trydanol, technoleg ddigidol, gwaith pren, teganau plant, dodrefn a beiciau.

Mae’r rhain yn cynnig ffordd greadigol i ddefnyddio sgiliau’r sawl sydd yn eich eglwys tra’n gwasanaethu ac adeiladu perthynas gyda phobl yn eich cymuned. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Repair Cafe Wales – Local Community Repair Cafés

Adnoddau Dydd Gwyl Dewi

Ers 2018, mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi bod yn gweithio gydag ymgyrch ‘Hope Together’ i gynhyrchu cylchgrawn bychan dwyieithog ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi sy’n cyflwyno pobl i’r ffydd Gristnogol. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy am waith ‘Hope Together’ a’r adnoddau sydd ar gael ganddynt: https://www.hopetogether.org.uk

Y gobaith yw y bydd y cylchgrawn o ddefnydd i’r eglwysi ac yn adnodd i’w rannu yn eich cymuned, naill ai drwy eu postio drwy ddrysau, cyfarch drws-i-ddrws, neu fel ffordd o ddechrau sgwrs am y ffydd Gristnogol gyda ffrindiau neu gydweithwyr. Mae’r cylchgrawn dwyieithog (Cymraeg a Saesneg gefn wrth gefn) yn cynnwys nifer o erthyglau diddorol wedi eu hysgrifennu mewn cyd-destun Cymreig. Hyderwn y caiff y cylchgrawn dderbyniad da gan bobl yn eich ardal.

Gellir ei ddefnyddio fel rhan o ymgyrch ehangach neu fel cyfrwng i wahodd eraill i ddod i’ch gwasanaeth neu ddigwyddiad Dydd Gwyl Dewi. Byddem yn falch i rannu’r cylchgrawn arbennig hwn gyda chi a’ch eglwys. Gellir gweld a lawrlwytho copïau blaenorol yma: