
Esgyn
Bydden ni wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni ar gyfer antur newydd: yn cyflwyno… Esgyn!
‘Esgyn’ yw enw menter newydd ieuenctid Undeb Bedyddwyr Cymru, wedi’i dylunio ar gyfer pobl ifanc yn ein heglwysi a’n cymunedau.
Calon ‘Esgyn’ yw i greu cyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd ac adeiladu perthnasau gyda’i gilydd, tra’n darganfod mwy am antur adnabod Duw…
Wyt ti (neu rywun rwyt ti’n ei nabod) yn 11-16 oed?
Wyt ti’n barod am antur newydd?
Wyt ti’n barod i archwilio antur cyffrous dilyn Iesu?
Wyt ti’n barod i adeiladu perthnasau newydd, a chael llawer o hwyl?
…. byddem ni’n caru petaech chi’n ymuno â ni!

Penwythnos Ieuenctid
Rydyn ni’n dechrau antur ‘Esgyn’ gyda Phenwythnos Ieuenctid ar y 9fed – 11eg o Chwefror 2024, mewn lleoliad anhygoel: The Rock UK Summit Centre, Treharris yn Ne Cymru.
Bydd y penwythnos yn lawnsio ar y nos Wener, ac yn rhedeg tan pnawn Sul, gyda chyfle i’r bobl ifanc i…
○ Fwynhau’r gweithgareddau sydd ar gael yng nghanolfan Summit The Rock UK, e.e ogofa, saethyddiaeth a dringo.
○ Mwynhau adegau o orffwys, cymuned, a bwyd da!
○ Gweithgareddau ‘tîm’ a gemau
○ Amserau o addoli, cerddoriaeth, dysgeidiaeth, a mwy…
Fe fydd y penwythnos yn ddwy-ieithog ac yn cynnwys darpariaeth iaith Gymraeg.

Cost y benwythnos: £90 (neu £35 gyda chymhorthdal)
Mae’r penwythnos wedi’i sybsideiddio yn sylweddol gan UBC, a chynigir mwy o gymorth os oes angen, felly dydyn ni ddim eisiau pris i fod yn rhwystr i unrhyw un sydd am ddod ar benwythnos Esgyn.
Os oes consyrn gennych am hyn, neu hoffech chi helpu person ifanc i ddod i Esgyn, cysylltwch â Sioned sioned@ubc.cymru neu Tim tmoody083@gmail.com.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu, bydden ni wrth ein bodd yn siarad gyda chi!

Bwcio
Bydd ffurflen bwcio am y penwythnos yn agor ar ddiwedd mis Tachwedd.
Yn y cyfamser, os hoffech chi fynegi diddordeb mewn dod i’r penwythnos, llenwch y ffurflen isod:
Mynegi diddordeb:
Penwythnos Ieuenctid // Youth Weekend (office.com)

Gweledigaeth ar gyfer cenhedlaeth newydd…
Mae thema ‘Esgyn’ (‘codi’, Saesneg: ‘Ascend’) yn cyfleu mentro ar antur gyda’n gilydd mewn cymuned, edrych i fyny at uchderau a chyffro dilyn Iesu, tra hefyd yn cadw mewn cof yr angen i archwilio ‘dyffrynnoedd’ bywyd bob dydd gyda Duw, yng ngyd-destun Cymru yr 21ain Ganrif.
Gobaith ‘Esgyn’ yw i:
- Gysylltu pobl ifanc gyda’i gilydd
- Annog pob person ifanc yn ei thaith / daith gyda Duw
- Adeiladu cymuned am flynyddoedd i ddod.
Cadwch lygaid ar y dudalen hon, ar gyfryngau cymdeithasol UBC, ac ar dudalen Instagram Esgyn am fwy o newyddion dros y misoedd nesaf...
Dod ynghyd
i dyfu mewn ffydd.
Esgyn mewn gobaith ar gyfer
cenhedlaeth newydd.
Cysylltwch â Sioned sioned@ubc.cymru neu Tim tmoody083@gmail.com neu ffoniwch rif swyddfa UBC 03452221514 os oes unrhyw ymholiadau. Bydden ni wrth ein bodd yn cael sgwrs gyda chi!