Bocs Offer

Mission Icon

Fe all cenhadaeth fod yn air mawr. Mae’n golygu llawer o bethau i wahanol bobl. Cenhadaeth yw hanfod yr eglwys – dyma sy’n gyrru’r eglwys o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn gyrru stori fawr Duw yn ei blaen.

Ond ble mae dechrau gyda’n cenhadaeth? Mae’r her yn gallu ymddangos yn fawr, er bod yr ewyllys i wneud rhywbeth yn gryf.

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, roedd gan yr Undeb adnodd o’r enw ‘Yr Hedyn Mwstard’ er mwyn arfogi eglwysi i edrych ar eu cyd-destun ac i gynllunio sut i adeiladu pontydd a fyddai’n arwain at genhadaeth.

Gall yr Hedyn Mwstard fod yn broses hir, felly aeth y Parch Simeon Baker ati i dorri’r adnodd i lawr i chwe phecyn ‘bitesize’ sy’n creu yr hyn a elwir yn ‘Focs Offer’. Y syniad yw fod yna chwe phwnc neu thema ar y fwydlen fel y gall eglwysi ddewis ohonynt (un neu ddau neu’r cyfan o’r fwydlen) fel blociau adeiladu er mwyn creu sylfaen i’w cenhadaeth.

Chwe phwnc sydd yn y Bocs Offer ar hyn o bryd, sef:

1. Agor y Drws

Mae’n addas ar gyfer eglwysi sydd eisiau gwybod beth ellir ei wneud i hysbysebu eu hunain a bod yn agored i bobl newydd:

  • croesawu – beth mae’n ei olygu i dderbyn pobl newydd?
  • hysbysebu gweithgareddau a chyfathrebu cyfoes
  • codi proffil yr eglwys yn eich ardal.

2. Arbrofi â’r addoliad

  • sut allwn ni wneud addoliad yn gyfoes?
  • datblygu addoliad a fydd yn addas i deuluoedd/plant/ieuenctid.

3. Deall ein cymuned

  • ble mae ein maes cenhadaeth?
  • pwy yw’r bobl sy’n byw o’n cwmpas ni nawr?
  • syniadau sut i adeiladu pontydd â’r gymuned.

4. Estyn allan at deuluoedd

  • sut i ddenu teuluoedd i mewn – ac i aros?
  • beth yw ‘Llan Llanast’? Sut allwn ni weithredu Llan Llanast?
  • sut i ddechrau gwaith plant/ieuenctid?

5. Ni yw’r Eglwys

  • Pwy yw’r eglwys heddiw?
  • Pa fath o bobl ŷm ni?
  • Beth sy’n hanfodol i fod yn eglwys?
  • Beth am y dyfodol? Oes gobaith i’n heglwysi ni y dyddiau yma?

6. Cristnogaeth hyderus

  • Beth yw ein neges?
  • Beth yw Efengyl Iesu Grist yn ei hanfod?
  • Sut allwn ni ymateb i’r cwestiynau mawr?
  • Sut i siarad â phobl yn naturiol am ein ffydd?

Gobaith UBC yw y bydd modd i ni gynnig y sesiynau hyn i grwpiau o eglwysi neu gymanfaoedd.

Nid oes y fath beth ag atebion cyflym a chan amlaf nid yw’r atebion i gyd mewn adnoddau chwaith. Ein gobaith felly, drwy gynnig y ‘Bocs Offer’, yw agor trafodaeth ag eglwysi, cynnig arweiniad ac annog eglwysi i feddwl am weledigaeth, yn ogystal â’u cynorthwyo i roi’r cynllun ar waith. Drwy gymryd un cam ar y tro, bydd hyder yn tyfu. Y cam cyntaf yw gweddi a bod yn agored i’r hyn y mae Duw yn ei ddymuno i ni ei wneud.

Beth Nesa?

Os hoffech drafod hyn ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â’r Parch Simeon Baker, Cyfarwyddwyr Cenhadaeth UBC drwy ffonio 0345 222 1514 neu drwy e-bostio: simeon@ubc.cymru