Pwyllgor Eglwys A Chyfrifoldeb Cymdeithasol

Mission Icon

Mae mwyafrif  pwyllgorau Undeb Bedyddwyr Cymru yn fforwm i blethu gweithgareddau’r Cymanfaoedd ynghyd, a dyna fu hanes y pwyllgor sy’n cyfarfod bellach fel Pwyllgor Dinasyddiaeth Undeb Bedyddwyr Cymru. Ers dechrau’r 20fed ganrif, bu’r Pwyllgor yn ymwneud â phryderon yr eglwysi ar bynciau penodol.  Roedd alcoholiaeth yn gonsyrn mawr ar ddiwedd y 19eg ganrif a sefydlwyd pwyllgor yn enw Dirwest a Moes.  Roedd ymgyrchu i gael gweinidogion a swyddogion eglwysi i lofnodi eu bod yn ymwrthod â’r ddiod gadarn – y Pledge.  Prin bod y Pwyllgor wedi dadlau’n gryf yn erbyn rhyfel, er bod nifer o blith y gweinidogion wedi sefyll fel gwrthwynebwyr cydwybodol.  Yn ystod y dau a thridegau yr 20fed ganrif daeth yr eglwysi yn fwy ymwybodol o bryderon tlodi yn dilyn cyfnodau o ddirwasgiad.  Erbyn y cyfnod hwn roedd pobl fel Lewis Valentine yn cynnig arweiniad cadarn o blaid heddwch ac roedd achos y Gymru Rydd yn amlycach. 

Yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif daeth arweinwyr eraill i’r amlwg a symudodd y pwyslais tuag at wneud datganiadau ar amrywiol bynciau megis heddwch, hawliau’r iaith a digartrefedd, a mynegi pryderon dros ffoaduriaid yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.  Wrth i gyrff fel Cymorth Cristnogol a Chymdeithas y Cymod ddenu cefnogaeth, roedd yr eglwysi yn lobïo gwleidyddion ac yn gwneud datganiadau yn y wasg, gan gyfrannu i drafodaeth ehangach.

Datblygiad arall a hyrwyddodd mwy o ddiddordeb a dealltwriaeth oedd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Chyngor Eglwysi Cymru. Dyma gorff a esblygodd i arddel yr enw CYTÛN yn ddiweddarach. Roedd gan y corff cydenwadol hwnnw dri gweithgor, ac un ohonynt oedd Gweithgor Cymru a’r Byd. Yn nyfodiad y Cynulliad (Senedd Cymru) roedd gan yr eglwysi fodd i gyfathrebu gyda gwleidyddiaeth Cymru, a da hynny.  Plethwyd cyrff eraill i ddwyn adroddiadau i’r pwyllgor hwn, megis y Cyngor Alcohol a lledodd maes y drafodaeth a natur y consyrn dros gyfiawnder. Daeth mwy o ffocws ar amgylchedd a hawliau’r lleiafrifoedd, hawliau pobl ddu a hawliau merched.  Rhan o ethos gwaith y Pwyllgor hwn fyddai gorchymyn sylfaenol Iesu i garu Duw a charu cyd-ddyn.  Hawlir na ellir gwneud y naill heb wneud y llall.