Scripture Union

Mae Scripture Union yn darparu cyfoeth o adnoddau, yn bennaf yn yr iaith Saesneg.  Maent yn cefnogi unigolion, eglwysi, grwpiau a mudiadau i rannu’r ffydd Gristnogol gyda phlant mewn gwahanol feysydd gan gynnwys ysgolion, cymunedau lleol, eglwysi, a thrwy gyfrwng chwaraeon. Gellir dysgu mwy am waith Scripture Union ynghyd â’r adnoddau sydd ar gael drwy ymweld â’u gwefan: Scripture Union

Scripture Union Cymru

Mae gan Scripture Union faich dros blant a phobol ifanc yng Nghymru. Nod eu gwaith yw ysbrydoli ac arfogi’r eglwys leol i ddatgelu Iesu i blant a phobol ifanc ledled y wlad.

Fel tîm Cymru, maent yn addasu eu cefnogaeth i’ch anghenion unigryw yn eich cyd-destun, rhannu syniadau ac adnoddau a allai weithio’n dda yn eich sefyllfa, a hyd yn oed rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o gysylltu â phlant a phobl ifanc na fyddai’n cael y cyfle i gwrdd ag Iesu fel arall.

Mae pawb ar y tîm yn siarad Cymraeg a gyda baich i weithio gyda chapeli ag eglwysi er mwyn cyrraedd plant a phobol ifanc yn eu mam iaith. Maent wrthi yn datblygu eu darpariaeth ac adnoddau Cymraeg.

Cliciwch y ddolen i ddarllen mwy am eu gwaith: Scripture Union Cymru