Rhoi
Er mwyn rhoi at y gwaith holl-bwysig mae Cymorth Cristnogol yn ei wneud yn Simbabwe…
- Dilynwch y linc yma at ein tudalen Justgiving: Apêl Talentau Gobaith – JustGiving
Codi arian
Crëwch dudalen Justgiving eich hunan ar gyfer eich eglwys neu grŵp cymunedol er mwyn codi arian tuag at apêl ‘Talentau Gobaith’…
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif JustGiving NEU crëwch gyfrif newydd (gan ddewis ‘sign up’ ar y wefan a rhoi cyfeiriad e-bost, enw a chyfrinair)
- Cliciwch ar ‘Start Fundraising’ sydd i’w leoli ym mhen chwith y dudalen.
- Byddwch yn gweld tudalen sy’n gofyn ‘what are you raising money for’. Dewiswch yr opsiwn am elusen.
- Ar y dudalen nesaf, bydd yn gofyn I chi chwilio am yr elusen/achos rydych chi am gefnogi. Yn y golofn chwilio
rhowch ‘Talentau Gobaith’. Dylai’r templed ddod fyny.

5. Cliciwch ar y templed. Bydd JustGiving yn gofyn sut rydych yn codi arian ar gyfer yr achos hwn, cliciwch ‘continue’.
6. Bydd JustGiving yn parhau i ofyn mwy o gwestiynau sy’n dibynnu ar eich dewisiad i’r cwestiwn blaenorol. Bydd Justgiving yn gofyn am fwy o fanylion os ydych chi’n cynnal digwyddiad. Cwblhewch bob cwestiwn yn gyfaddas i’r hyn rydych chi am ei wneud.
7. Unwaith rydych wedi cwblhau’r cwestiynau, cliciwch ‘create your page’ a bydd y dudalen yn cael ei greu. Ar ben y dudalen, bydd opsiwn ‘personalise’ neu ‘edit’, cliciwch ar y botwm hwn a byddwch yn gallu newid y dudalen i gyfateb i’ch anghenion.
8. Unwaith rydych yn hapus gyda’r dudalen, rhannwch hi a mwynhewch godi arian ar gyfer yr achos hollbwysig hon!
Diolch!
…. bydd eich rhoddion yn cyfrannu at waith holl-bwysig yn Simbabwe ar gyfer cymunedau a theuluoedd am flynyddoedd i ddod.
