Ydych chi’n chwilio am her yn eich blwyddyn gap?
Ydych chi rhwng 19 a 25 mlwydd oed ac eisiau cymryd blwyddyn allan?*
Mae Tîm i Gymru yn gynllun blwyddyn gap ar gyfer Cristnogion ifainc a fydd yn:
- Eich helpu i dyfu fel Cristion ac fel person
- Yn rhoi profiad ymarferol o weithio gydag eglwysi lleol
- Eich dysgu am realiti cenhadaeth a gweinidogaeth yn ein cymdeithas ôl-Gristnogol
- Darparu hyfforddiant a chynllun mentora a fydd yn rhoi hyder i chi fentro mewn ffydd gan wybod fod pobl gerllaw i’ch cefnogi.
- Cynnig cyfle i deithio dramor i weld a phrofi cenhadaeth mewn diwylliant gwahanol.
Mae Tîm i Gymru yn agored i unigolion Cymraeg neu Saesneg eu hiaith.
Beth sydd mor arbennig am y flwyddyn gap hon?
- Hyfforddiant cyfoes wedi’i ddarparu gan Undeb Bedyddwyr Cymru.
- Profiad o weithio gydag eglwys neu eglwysi lleol yng Nghymru am 10 mis, a’u cynorthwyo i estyn allan i’r gymuned gyda’r newyddion da am Iesu Grist.
- Gweithio mewn tîm o bobl ifanc gydag angerdd dros Grist.
- Taith dramor i weld gwaith arloesol mewn mannau eraill y gallwn ddysgu wrtho.
- Cyfle i feithrin eich doniau a thyfu yn eich adnabyddiaeth o’r Arglwydd Iesu.
“Mae Tîm i Gymru wedi bod mor werthfawr i fi dros y flwyddyn. Dwi’n falch iawn imi gael y cyfle i wneud hynny.” – Hannah
“Mae’n flwyddyn grêt lle byddwch yn dysgu llawer am Gymru. Rydw i’n ddiolchgar i Dduw am y cyfloedd a gefais i gyflwyno’r Efengyl ac yn gweddïo y bydd mwy o ddrysau’n agor yn y dyfodol i’r Efengyl yng Nghymru a’r byd.” – Gruff
“Yr her i Gristnogion y dyddiau yma yw ein bod ni yn rhy gyfforddus, ac yn gyfforddus o fod yn gyfforddus. Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn gyfrwng i’m dihuno ac i geisio cysur Duw. Dwi ddim yn gallu meddwl am unrhyw reswm dros beidio â cheisio am gyfforddusrwydd Crist ymhob rhan o’n bywydau.” – Eleri
“Dw i’n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi’r nerth i mi wneud hynny.” (Philipiaid 4:13)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu gyda Carwyn Graves yn Swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru ar 0345 222 1514 neu drwy ebost – carwyn@ubc.cymru
DS Os ydych tu allan i’r oedrannau hynny ond mae gennych ddiddordeb yn y rhaglen hon, cysylltwch a ni gan ddefnyddio’r manylion uchod i ni gael trafod ymhellach gyda chi a fydd y rhaglen yn ffit dda i chi.
Os hoffech wneud cais, gellir lawrlwytho pecyn gwybodaeth a ffurflen gais yma a’u dychwelyd erbyn Pasg 2022 os yn bosib:
Rhowch gyfle i Dduw wneud gwahaniaeth yn eich bywyd!