Ein Cred

Mae’r Datganiad o Egwyddor yn rhoi sail i fywyd yr Undeb ac mae wedi’i wreiddio yng Nghomisiwn Mawr yr Arglwydd Iesu:

*A daeth Iesu a dweud wrthyn nhw: “I mi y rhoddwyd pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a’u dysgu i gadw fy ngorchmynion i gyd. Ac yn wir, rydw i gyda chi bob amser hyd ddiwedd amser.”

Matt 28:18-20

Paratowyd y Datganiad yn 1873 ac fe’i diwygiwyd yn 1904, 1906 a 1938. Mae’r Datganiad yn ein galluogi fel eglwysi i fod mewn perthynas â’n gilydd, er y gall mynegiant ein ffydd fel Eglwysi fod yn wahanol.  Gellir canfod esboniad helaeth o le a phwysigrwydd y datganiad o egwyddor ym mywyd Bedyddiedig yng Nghymru heddiw yma: ‘Y Rhwymau sy’n ein clymu ni ynghyd’.

Mae cymal cyntaf y Datganiad yn cyfeirio at awdurod absoliwt yr Arglwydd Iesu, yr ail gymal yn canolbwyntio ar y bedydd trochiad, a’r cymal olaf yn cyfeirio at y pwysigrwydd o rannu’r ffydd Gristnogol.

Y Datganiad o Egwyddor

  1. Ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist, Duw a amlygwyd yn y cnawd, yw’r unig awdurdod llwyr a hollol mewn materion yn ymwneud â ffydd ac ymarfer, fel y’i mynegwyd yn yr Ysgrythurau Sanctaidd, ac mae gan bob Eglwys ryddid i ddehongli ac i weinyddu Ei Gyfreithiau dan arweiniad yr Ysbryd Glân.
  2. Bedydd Cristnogol yw’r weithred o drochi mewn dŵr y sawl sydd wedi datgan edifeirwch ger bron Duw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist a fu farw dros ein pechodau yn ôl yr Ysgrythurau, a gladdwyd ac a atgyfodwyd y trydydd dydd.
  3. Dyletswydd pob disgybl yw tystio’n bersonol i Efengyl Iesu Grist ac i gymryd rhan mewn efengyleiddio’r byd.

Teulu

Rydym yn aelodau o deulu byd-eang yr Eglwys ac mae modd dod o hyd i Fedyddwyr yn y rhan fwyaf o wledydd y byd. Mae’r cysyniad o deulu yn holl bwysig gan ein bod yn ystyried ein hunain fel teulu o gredinwyr, wedi ymrwymo i Grist ac i’n gilydd er mwyn gwasanaethu Duw yn y byd, gyda’r eglwys leol yn greiddiol i bob aelod.

Gweinidogaeth yr Holl Saint

Credwn yng ngweinidogaeth yr holl saint a bod gan bawb gyfraniad gwerthfawr a phwysig i’w wneud wrth wasanaethu Duw. Er y bydd pob aelod yn gydradd o ran statws y mae rhai wedi eu neilltuo i gyflawni swyddogaethau gwahanol o fewn yr Eglwys, er enghraifft penodir gweinidog neu arweinydd gan bob Eglwys yn ogystal â diaconiaid a fydd yn cynorthwyo’r gweinidog yn ei g/waith. 

Sofraniaeth yr Eglwys Leol

Mae’r egwyddor o sofraniaeth leol yn hynod bwysig i Fedyddwyr a chredwn fod gan bob Eglwys yr hawl i ddirnad ewyllys Duw ar ei chyfer o dan arweiniad yr Ysbryd Glân yn y cwrdd eglwys. Ar yr un pryd credwn yn yr egwyddor o fod mewn cymdeithas gyda’n chwaer eglwysi o fewn ein Cymanfaoedd, yr Undeb ac ar lefel fyd-eang, yn hytrach na’n bod yn eglwysi ynysig.

Bedydd Trochiad

Fel Bedyddwyr, credwn mewn bedydd trochiad pan fydd disgybl i’r Arglwydd Iesu yn penderfynu datgan ei ffydd yn gyhoeddus yn yr Arglwydd ac yn gwneud ymrwymiad personol iddo. Nid pen draw y bererindod ysbrydol yw’r bedydd, ond rhan ohono. 

Gair Duw

Mae’r Beibl, Gair Duw, yn gwbl ganolog i’n ffydd a thrwy astudiaeth gyson o’r Ysgrythurau o dan arweiniad yr Ysbryd Glân cawn dyfu yn ein ffydd fel unigolion a chynulleidfaoedd. Fel nifer o enwadau anghydffurfiol eraill mae pregethu yn ganolog i fywyd yr eglwys.