Un o blant Eglwys Beulah, Cwmtwrch oedd Alun J. Davies, ac fel dau arall o’i frodyr, John Glyndwr a Gerson, ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth o dan ddylanwad pregethu y Parchg Glasnant Young. Roedd gan Daniel a Jane Davies, Bryneithin, Cwmtwrch Isaf, ddeuddeg o blant ac Alun oedd yr ieuengaf ond un. Nodwn enwau’r plant i gyd yn nhrefn eu geni sef Ishmael, Tabitha, David R, Tom Alcwyn, Mary, Arianwen, David D, May, John Glyndwr, Gerson, Alun, a Gwladys.