Diolch – rydym ar fin cyrraedd hanner ffordd!
Targed yr Apêl: £40,000
Cyfanswm yr Apêl hyd yma: £16,782
(Ionawr 2021)
Adnoddau newydd ar gyfer 2021
O ganlyniad i bandemig Covid-19, mae cyfnod Apêl Timothy Richard wedi’i ymestyn tan fis Gorffennaf 2021 a pharatowyd adnoddau newydd ar gyfer yr eglwysi.
Beth am gynnal gwasanaeth cenhadol arbennig yn canolbwyntio ar stori Timothy Richard gan ddefnyddio’r adnoddau isod?
‘Gwasanaeth Y Sul’ gan y Parch Peter M Thomas
- Yn garedig iawn, mae Peter wedi paratoi gwasanaeth cyfan sy’n cynnwys darlleniadau, gweddïau, myfyrdodau, emynau a chyflwyniad PowerPoint.
- Gellir defnyddio neu addasu’r deunydd ar gyfer gwasanaeth ar-lein.
- Anogwch y rhai nad ydynt yn gallu ymuno â gwasanaethau ar-lein, drwy argraffu a rhannu copïau i’w darllen gartref.
Lawrlwythwch y Gwasanaeth:
Lawrlwythwch y PowerPoint:
Fideos Newydd
Fideo 1: Beth mae’r eglwys yn ei wneud mewn cyfnod o argyfwng?
Ym mis Chwefror 2021 cafodd nifer o weinidogion UBC gyfle i siarad â Nabil Costa, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Ysgolion Efengylaidd Lebanon (AESL), a’i gydweithiwr Wissam, a fynychodd gyfarfod ar-lein ar gyfer Gweinidogion UBC.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Nabil: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wynebodd Lebanon sawl argyfwng: y gwrthryfeloedd torfol, pandemig y Coronafeirws, a’r ffrwydrad ym mhorthladd Beirut ar 4 Awst 2020. Daeth y rhain ar sodlau degawd o helbul dyngarol eithafol a oedd wedi arwain at argyfwng economaidd, ariannol a chymdeithasol a waethygai’n gyson. Mewn ymateb i argyfyngau amrywiol y flwyddyn, ymatebodd pob un o’n gweinidogaethau, law yn llaw â’r eglwysi lleol, i gynorthwyo’r cymunedau cyfagos. Daeth pawb at ei gilydd i gydweithio ac i ymateb i’r holl anghenion amrywiol”.
Fideo 2: Sut mae eglwysi’r Bedyddwyr yn ymateb i’r argyfwng yn Lebanon?
Fideo byr (5 munud) sy’n dangos y gwaith anhygoel a wneir gan eglwysi Bedyddwyr Lebanon. Dangoswyd y fideo hwn yng Nghyngor Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop 2020.
Fideo 3: Diolch oddi wrth Dr Kang San Tan
Fideo byr gan Dr Kang San Tan, Cyfarwyddwr Cyffredinol BMS World Mission yn diolch am yr holl gyfraniadau a dderbyniwyd.
Fideo 4: ‘Hope for Refugee Children’
Fideo sy’n ein hatgoffa am y cenhadwr Timothy Richard a sut y gallwn helpu BMS i weithio ymhlith plant ffoaduriaid yn Syria.
Adnoddau Ychwanegol
Mae adnoddau ychwanegol hefyd ar gael ar dudalen Apêl BMS.
Sut allaf gyfrannu?
Deallwn y bydd yn anodd cynnal casgliadau eleni. Serch hynny, gofynnwn ichi ystyried a gofalu bod y dewisiadau canlynol ar gael ar gyfer y rhai a hoffai gyfrannu.
- Rhoi Ar-lein: I gyfrannu ar-lein ewch yn uniongyrchol i wefan BMS Cymru:
https://www.bmsworldmission.org/appeal/buw-timothy-richard-appeal/ - Rhoi drwy’r Post: Os hoffech gyfrannu drwy’r post, gallwch anfon eich siec yn daladwy i ‘Undeb Bedyddwyr Cymru’ wedi’i marcio’n glir Apêl Timothy Richard, i’r swyddfa yng Nghaerfyrddin.
- Casgliad Eglwys: Defnyddiwch y slip cyfrannu ar-lein sydd ar gael i’w lawrlwytho yma. https://www.bmsworldmission.org/product/timothy-richard-appeal-donation-slip