Teulu o Gymanfaoedd ac eglwysi Bedyddiedig o bob cwr o Gymru yw Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae’r Undeb yn cynnwys un ar ddeg o Gymanfaoedd Bedyddiedig sydd wedi eu grwpio mewn rhanbarthau ledled Cymru.

- Môn
- Arfon
- Dinbych, Fflint a Meirion
- Maesyfed a Maldwyn
- Brycheiniog
- Gwent
- Dwyrain Morgannwg
- Gorllewin Morgannwg
- Caerfyrddin a Cheredigion
- Penfro (Saesneg)
- Penfro (Cymraeg)
Yn ogystal ag eglwysi ledled Cymru, mae Eglwys Gymraeg Canol Llundain (Castle Street) hefyd yn Aelod o UBC.
Ar hyn o bryd mae UBC wrthi’n ymgynghori yngylch creu SCEs (CIOs yn Saesneg) rhanbarthol newydd i hybu cenhadaeth yn ein gwlad. Gweler adran Cwestiwn ac Ateb yma.
Chwilio am Eglwys?
Mae gennym gyfeiriadur o eglwysi yma, sy’n rhoi lleoliad, iaith a phresenoldeb gwe (gwefan, sianel Youtube ayyb) i’r eglwysi.
Fel arall, cliciwch isod i lawr lwytho copi o’r Llawlyfr Blynyddol sy’n cynnwys rhestr lawn o Gymanfaoedd ac Eglwysi sy’n aelodau o Undeb Bedyddwyr Cymru.
Llawlyfr UBC 2021
* Noder, yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data, ni allwn gyhoeddi manylion cyswllt unigol yr eglwys. Os hoffech gysylltu ag eglwys o fewn i UBC, cysylltwch gyda Swyddfa UBC.