Mae gan Undeb Bedyddwyr Cymru dîm bach o staff sy’n cydweithio i gefnogi’r cymanfaoedd, eglwysi a gweinidogion a gweinyddu bywyd yr Undeb. Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am aelodau o staff a’u meysydd gwaith. Os hoffech gysylltu ag aelod o staff, gellid gwneud hynny drwy’r manylion cyswllt unigol a ddarperir isod neu drwy gysylltu â Swyddfa UBC.

Parchedig Judith Morris
Ysgrifenydd Cyffredinol
Mae Judith yn gyfrifol am weinyddiaeth yr Undeb ac yn rhinwedd ei swydd bydd yn darparu arweiniad a gofal bugeiliol i weinidogion, Eglwysi a Chymanfaoedd. Rhan bwysig o’i gwaith yw cynllunio gyda’r Byrddau ar gyfer y dyfodol er mwyn hyrwyddo’r ffydd Gristnogol a’r egwyddorion bedyddiedig.
Ebost: judith@ubc.cymru
Ebost: judith@ubc.cymru

Parch. Simeon Baker
Cyfarwyddwr Cenhadaeth
Mae Simeon yn cydweithio gyda Bwrdd y Genhadaeth er mwyn cefnogi ac annog yr Eglwysi a’r Cymanfaoedd yn eu cenhadaeth i ddatblygu ein blaenoriaethau drwy hyfforddiant, partneriaethau a phrosiectau.
Ebost: simeon@ubc.cymru
Ebost: simeon@ubc.cymru

Bonni Davies
Cynorthwy-ydd Personol
Mae Bonni yn Gynorthwy-ydd Personol i Ysgrifennydd Cyffredinol UBC ac yn gyfrifol am weinyddu Byrddau a Phwyllgorau’r Undeb. Bu'n gyfrifol hefyd am baratoi'r Negesydd
Ebost: bonni@ubc.cymru
Ebost: bonni@ubc.cymru

Nigel Vaughan
Swyddog Cyllid
Mae Nigel yn gyfrifol am weinyddu holl gyfrifon a chronfeydd yr Undeb a’r Gorfforaeth, gan gynnwys paratoi y gyllideb flynyddol a’r adroddiadau monitro ar gyfer yr Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Cyllid.
Ebost: nigel@ubc.cymru
Ebost: nigel@ubc.cymru

Helen Wyn
Cydlynydd y Gorfforaeth
Mae Helen yn gyfrifol am weinyddu, cynorthwyo a darparu arweiniad i Eglwysi, Cymanfaoedd ac unigolion ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau a gweithredoedd. Bydd yn cynnig arweiniad pan fydd Achos yn dod i ben ac yn cynorthwyo gyda’r gofynion cyfreithiol. Mae hefyd yn gyfrifol am gysylltu gyda thenantiaid y Gorfforaeth er sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a chanllawiau Rhentu Doeth Cymru.
Ebost: helenwyn@ubc.cymru
Ebost: helenwyn@ubc.cymru

Christian Tucker-Williams
Cydlynydd y Gorfforaeth
a Swyddog Prosiectau
a Swyddog Prosiectau
Mae Helen yn gyfrifol am weinyddu, cynorthwyo a darparu arweiniad i Eglwysi, Cymanfaoedd ac unigolion ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau a gweithredoedd. Bydd yn cynnig arweiniad pan fydd Achos yn dod i ben ac yn cynorthwyo gyda’r gofynion cyfreithiol. Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau penodol o fewn UBC.
Ebost: christian@ubc.cymru
Ebost: christian@ubc.cymru

Marc Owen
Cydlynydd y Weinidogaeth
Gan weithio'n agos â Bwrdd Gweinidogaeth UBC a'r Tîm Lleoli, mae Marc yn helpu i gydlynu cefnogaeth barhaol ac anogaeth gweinidogion UBC, myfyrwyr a'n heglwysi. O gael sgyrsiau cychwynnol gyda'r sawl sy'n teimlo 'galwad' i'r weinidogaeth i helpu hwyluso cyfleoedd hyfforddiant amrywiol gan gynnwys cynllun NAMS i weinidogion sydd newydd eu hachredu, mae Marc yn gweithio'n agos gyda'r Ysgrifenydd Cyffredinol a'r Cyfarwyddwr Cenhadaeth i gefnogi gweinidogaeth ledled yr Undeb.
Ebost: marc@ubc.cymru

Sioned Graves
Swyddog Cenhadaeth a Chyfathrebu Digidol
Mae Sioned yn gyfrifol am gyfathrebiadau mewnol ac allanol yr Undeb, gan gynnwys golygu'r Negesydd, edrych ar ôl ein gwefan, a churadu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae'r sianeli cyfathrebu yma yn cyfrannu at ail ran ei swydd: cefnogi'r Cyfarwyddwr Cenhadaeth i annog Eglwysi a Chymanfaoedd yn eu chenhadaeth yn rhannu newyddion da Iesu i Gymru'r 21ain Ganrif.
Ebost: sioned@ubc.cymru
Ebost: sioned@ubc.cymru

Llinos Penfold
Cydlynydd y Gorfforaeth
Mae Helen yn gyfrifol am weinyddu, cynorthwyo a darparu arweiniad i Eglwysi, Cymanfaoedd ac unigolion ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau a gweithredoedd. Bydd yn cynnig arweiniad pan fydd Achos yn dod i ben ac yn cynorthwyo gyda’r gofynion cyfreithiol.
Ebost: llinos@ubc.cymru

Gwen Vaughan
Gweinyddwr Swyddfa
Mae Gwen yn gyfrifol am waith gweinyddol y swyddfa – ateb y ffon, rheoli blwch ebost canolog yr Undeb yn ogystal a phrosesu’rpost. Mae hi'n helpu i gadw busnes yr Undeb i fynd, yn cynhyrchu'r Llawlyfr blynyddol ac yn rhedeg ein cronfa ddata.
Ebost: post@ubc.cymru
Ebost: post@ubc.cymru

Beci Jones
Uwch Swyddog Cyllid
Mae Beci yn gyfrifol am weinyddu holl gyfrifon a chronfeydd yr Undeb a’r Gorfforaeth, gan gynnwys paratoi y gyllideb flynyddol a’r adroddiadau monitro ar gyfer yr Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Cyllid.
Ebost: beci@ubc.cymru

Carwyn Graves
Swyddog Cenhadaeth
Gan weithio ochr-yn-ochr â'r Cyfarwyddwr Cenhadaeth, Bwrdd y Genhadaeth a'r CIOs rhanbarthol, mae Carwyn yn gyfrifol am gefnogi cenhadaeth leol yng Nghymru heddiw. Ebost: carwyn@ubc.cymru