Ein Llywyddion

Bob blwyddyn, bydd ‘Cymanfa’ ranbarthol yn perthyn i Undeb Bedyddwyr Cymru yn ethol un Llywydd i gynrychioli’r adain Gymraeg ac un i gynrychioli’r adain Saesneg. O bryd i’w gilydd, etholir Llywydd i gynrychioli dwy adain yr Undeb. Ar ôl cael eu sefydlu yn y gynhadledd flynyddol, mae’r Llywyddion newydd yn gwasanaethu gyda’i gilydd gyda’r Cyn-Llywyddion a’r Is-Lywyddion fel rhan o’r ‘Tîm Llywyddol’. Un o brif dasgau’r grŵp profiadol hwn o fenywod a dynion yw sicrhau perthynas iach gwahanol rannau’r Undeb. Dyma’n llywyddion presennol:

Parch. Maggie Rich

Llywydd (Adain Ddi-Gymraeg)
Mae Maggie yn weinidog gydag eglwysi Bedyddwyr Sarn, Kerry a Dre Newydd, ac yn Anna Chaplain gyda Chymanfa Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn.

Parch. Tim Moody

Llywydd (Adain Ddi-Gymraeg)
Tim yw un o fugeiliad Eglwys Moriah, Rhisga ac yn cymryd rhan flaenllaw ym mywyd Cymanfa Gwent.

Parch. Robert Nicholls

Vice President (Adain Gymraeg)
Mae Rob yn weinidog yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain yn Oxford Circus, sydd yn ganolbwynt i fywyd ffydd iaith Gymraeg y ddinas.

Parch. Geraint Morse

Llywydd (Adain Gymraeg)
Mae Geraint yn weinidog eglwysi Croesgoch a Harmoni Pencaer, ac yn Ysgrifennydd i Gymanfa Penfro.

Mr Bill Davies

Cyn-Lywydd (Cymraeg)
Yn ddiacon yn y Tabernacl, Caerdydd, mae Bill hefyd yn gwasanaethu fel Cadeirydd ein Hymddiriedolwyr.

Parch. Jonathan Brewer

Is-Llywydd (Adain Ddi-Gymraeg)
Mae Jonathan yn weinidog yn Eglwys Aenon yn Sandy Hill, Sir Benfro.