Esgyn

Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ymuno â ni ar antur newydd: yn cyflwyno… Esgyn !

Bydden ni wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni ar gyfer antur newydd: yn cyflwyno… Esgyn! ‘Esgyn’ yw enw menter ieuenctid newydd Undeb Bedyddwyr Cymru, wedi’i dylunio ar gyfer pobl ifanc yn ein heglwysi a’n cymunedau.

Calon ‘Esgyn’ yw i greu cyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd ac adeiladu perthnasau gyda’i gilydd, tra’n darganfod mwy am antur adnabod Duw…

Wyt ti (neu rywun rwyt ti’n ei nabod) yn 11-16 oed?
Wyt ti’n barod am antur newydd?
Wyt ti’n barod i archwilio antur cyffrous dilyn Iesu?
Wyt ti’n barod i adeiladu perthnasau newydd, a chael llawer o hwyl?

…. byddem ni’n caru petaech chi’n ymuno â ni!

Penwythnos Ieuenctid

Fe wnaethom ni ddechrau antur ‘Esgyn’ gyda Phenwythnos Ieuenctid ar y 9fed – 11eg o Chwefror 2024, mewn lleoliad anhygoel: The Rock UK Summit Centre, Treharris yn Ne Cymru, gydag ail benwythnos yn cymryd lle ym mis Tachwedd 2024.

Rydym ni mor gyffrous ein bod yn dychwelyd yr Hydref hwn ar gyfer trydydd penwythnos a fydd yn rhedeg o’r 21ain – 23ain o Dachwedd 2025.

Bydd y penwythnos yn lawnsio ar y nos Wener, ac yn rhedeg tan pnawn Sul, gyda chyfle i’r bobl ifanc i:

Fwynhau’r gweithgareddau sydd ar gael yng
nghanolfan Summit Rock UK,
e.e saethyddiaeth, ogofa, rhaffau uchel a dringo…

Mwynhau adegau o orffwys, cymuned, a bwyd da!
Gweithgareddau ‘tîm’ a gemau…

Amserau o addoli, cerddoriaeth, dysgeidiaeth, a mwy…

Cost y penwythnos: £95

Mae’r penwythnos wedi’i sybsideiddio yn sylweddol gan UBC (gostyngwyd o bris llawn £160), a chynigir mwy o gymorth trwy gymhorthdal, felly dydyn ni ddim eisiau pris i fod yn rhwystr i unrhyw un sydd am ddod ar benwythnos Esgyn.

Os oes consyrn gennych am hyn, neu hoffech chi helpu person ifanc i ddod i Esgyn, cysylltwch â thîm Esgyn: esgyn@ubc.cymru. Peidiwch ag oedi rhag cysylltu, bydden ni wrth ein bodd yn siarad gyda chi!

Cynhelir yr wythnos yn ddwyieithog, ac eitemau / darpariaeth yn y Gymraeg bob man posib.

Bwcio

Mae modd archebu lle nawr! Dyddiad cau: 14eg o Fedi 2025.

Archebwch eich lle yma:
Cofrestru Esgyn Tachwedd

Gweledigaeth ar gyfer cenhedlaeth newydd…

Mae thema ‘Esgyn’ (‘codi’, Saesneg: ‘Ascend’) yn cyfleu mentro ar antur gyda’n gilydd mewn cymuned, edrych i fyny at uchderau a chyffro dilyn Iesu, tra hefyd yn cadw mewn cof yr angen i archwilio ‘dyffrynnoedd’ bywyd bob dydd gyda Duw, yng ngyd-destun Cymru yr 21ain Ganrif.

Gobaith ‘Esgyn’ yw i:

  • Cysylltu pobl ifanc a’i gilydd
  • Annog pob person ifanc yn ei d/thaith gyda Iesu
  • Adeiladu cymuned arhosol am flynyddoedd i ddod.

Byddem ni’n caru clywed oddi wrthych chi!

Cysylltwch â thîm Esgyn trwy e-bost esgyn@ubc.cymru. Gallwch hefyd alw swyddfa UBC 03452221514 a gofyn i siarad gyda Carwyn neu Simeon.

Dod ynghŷd
i dyfu mewn ffydd.

Esgyn mewn gobaith ar gyfer
cenhedlaeth newydd.

Cadwch lygaid allan ar dudalen Instagram a Facebook Esgyn i glywed y newyddion diweddaraf, yn ogystal â sianeli a chyfryngau cymdeithasol UBC.