Beth sydd wedi bod yn digwydd? 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae sawl eglwys o bob rhan o Undeb Bedyddwyr Cymru a thu hwnt wedi cyfarfod gyda’i gilydd dros Zoom i gymryd rhan mewn hyfforddiant cenhadol gyda Cameron Roxburgh (Forge Canada). 

Mae rhai eglwysi ac unigolion wedi bod yn dilyn y rhaglen fwy dwys o’r enw Ethos dros ddwy flynedd tra bod eraill wedi bod yn cwrdd yn fisol fel rhan o Darganfod ar gyfer sgwrs a thrafodaeth. 

Un peth rydyn ni i gyd yn rhannu yw awydd i weld yr eglwys yma yng Nghymru yn tyfu yn ei hyder i ymuno â Duw mewn cenhadaeth. 

“ Mae Darganfod wedi agor ein meddyliau ar sut i wneud pethau syml i ddechrau’r sgwrs am ffydd unwaith eto yn ein hardaloedd. Pwysigrwydd cymuned wrth genhadu. Pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd yn ein capeli a gofalaethau!”  

Parch Sian Elin Thomas, Bro Cemaes ac Emlyn  

Beth sydd nesaf? 

Rydym yn bwriadu parhau â’r daith genhadol hon drwy ‘Gweithredu‘ o’r 8fed o Fedi 2022 ymlaen.  

Fel mae’r enw’n awgrymu, pwrpas ‘Gweithredu’ yw ein helpu i gymryd camau priodol i weld a all yr hyn rydym wedi bod yn ei ddysgu gyda’n gilydd helpu’r eglwys yma yng Nghymru i estyn allan y tu hwnt i’r eglwys i’n cymunedau lleol gyda chariad Duw. 

Dyma ragflas o’r deunydd y byddwn yn dilyn:

Pryd fydd Gweithredu yn cyfarfod? 

Rydym yn bwriadu cyfarfod bob yn ail ddydd Iau yn y mis, gan osgoi gwyliau ysgol ac ati. Bydd pob sesiwn yn dechrau am 7.30yh ac yn gorffen yn brydlon am 9.00yh. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer Gweithredu gallwch ddefnyddio’r un ddolen Zoom ar gyfer pob sesiwn. 

A fydd yn rhaid i mi wneud unrhyw beth? 

Rydym yn cydnabod bod ein cyd-destunau i gyd yn wahanol a’n bod ni’n symud ar gyflymder gwahanol. Bydd angen i rai gymryd camau babanod ymlaen a bydd eraill am lamu ymlaen! Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn annog ein gilydd i wneud yr hyn a allwn. Weithiau mae’n helpu i gael rhywun arall sy’n deall ein cyd-destun. Mae cymuned dda yn cynnig anogaeth i bawb. 

Pwy all ddod? 

Mynychwyr am y Tro Cyntaf: Os nad ydych wedi gwneud unrhyw un o’r rhaglenni hyfforddiant (Ethos neu Darganfod) yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn ‘Gweithredu’. Mae croeso mawr i chi ac os gallwn eich helpu mewn unrhyw ffordd i ddechrau’r daith genhadol hon, rydym am wneud hynny. 

Graddedigion Darganfod ac Ethos: Os ydych chi neu’ch eglwys wedi bod yn ymwneud ag Ethos neu Darganfod dros y ddwy flynedd ddiwethaf, byddem yn eich annog yn gryf i ddod draw i Gweithredu a manteisio ar y cyfle i ddod ag eraill gyda chi. Efallai y gallai grŵp bach o’r eglwys ddod gyda chi, efllai rhai o’r Diaconiaid – efallai y gallai hwn fod yn gyfarfod canol wythnos i chi fel eglwys? Pa un bynnag sy’n gweithio orau i chi, po gryfaf yw’r tîm y pellaf y gall fynd. ‘Gyda’n gilydd mae mynd ymhell!’ 

Sut ydw i’n cofrestru? 

Gallwch gofrestru ar gyfer ‘Gweithredu’ drwy’r ffurflen hon. Fel arall, gallwch e-bostio simeon@ubc.cymru neu carwyn@ubc.cymru 

Os ydych chi eisiau gwybod mwy neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â Simeon neu Carwyn drwy e-bost neu dros y ffôn.