Rhoi a Chodi Arian

Mission Icon

Rhoi

Er mwyn rhoi at y gwaith holl-bwysig mae Cymorth Cristnogol yn ei wneud yn Zimbabwe…

  • Dilynwch y linc yma at ein tudalen Justgiving: Apêl Talentau Gobaith – JustGiving (mae modd gwneud ‘Rhodd Gymorth / Gift Aid’ ar-lein)
  • Neu anfonwch siec at: Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ gan wneud y sieciau yn daladwy i ‘Undeb Bedyddwyr Cymru’ ac ysgrifennu ‘Apêl Cymorth Cristnogol’ ar y cefn (noder na allwn dderbyn ‘Rhodd Gymorth / Gift Aid’ trwy’r dull hwn)

Codi arian

Crëwch dudalen Justgiving eich hunan ar gyfer eich eglwys neu grŵp cymunedol er mwyn codi arian tuag at apêl ‘Talentau Gobaith’…

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif JustGiving NEU crëwch gyfrif newydd (gan ddewis ‘sign up’ ar y wefan a rhoi cyfeiriad e-bost, enw a chyfrinair)
  2. Cliciwch ar ‘Start Fundraising’ sydd i’w leoli ym mhen chwith y dudalen.
  3. Byddwch yn gweld tudalen sy’n gofyn ‘what are you raising money for’. Dewiswch yr opsiwn am elusen.
  4. Ar y dudalen nesaf, bydd yn gofyn I chi chwilio am yr elusen/achos rydych chi am gefnogi. Yn y golofn chwilio
    rhowch ‘Talentau Gobaith’. Dylai’r templed ddod fyny.

5. Cliciwch ar y templed. Bydd JustGiving yn gofyn sut rydych yn codi arian ar gyfer yr achos hwn, cliciwch ‘continue’.

6. Bydd JustGiving yn parhau i ofyn mwy o gwestiynau sy’n dibynnu ar eich dewisiad i’r cwestiwn blaenorol. Bydd Justgiving yn gofyn am fwy o fanylion os ydych chi’n cynnal digwyddiad. Cwblhewch bob cwestiwn yn gyfaddas i’r hyn rydych chi am ei wneud.

7. Unwaith rydych wedi cwblhau’r cwestiynau, cliciwch ‘create your page’ a bydd y dudalen yn cael ei greu.

8. Ar ben y dudalen, bydd opsiwn ‘personalise’ neu ‘edit’, cliciwch ar y botwm hwn a byddwch yn gallu newid y dudalen i gyfateb i’ch anghenion.

9. Unwaith rydych yn hapus gyda’r dudalen, rhannwch hi a mwynhewch godi arian ar gyfer yr achos hollbwysig hon!

Diolch!

…. bydd eich rhoddion yn cyfrannu at waith holl-bwysig yn Zimbabwe ar gyfer cymunedau a theuluoedd.