Archives: Cofiannau Gweinidogion

Ganwyd Isaac Jones yngh Nghastell Nedd yn 1847.  Symudodd gyda’i deulu i Ferthyr Tudful a dechreuodd weithio yn y lofa leol yn naw oed.  Wedyn symudodd y teulu i Bontypridd lle gweithiodd yn y Chain Works a hefyd ym mhwll glo’r ‘Great Western’. 
Gŵr tawel a diymhongar oedd Idris Hughes a godwyd i’r weinidogaeth o dan arweiniad ei gyfaill, y Parchg Milton Jenkins, ond roedd wedi derbyn yr alwad ddwyfol flynyddoedd ynghynt. Ganwyd ef yn 1937 ym Mhenygroes, Arfon, ac yn un o dri phlentyn Edward ac Laura Hughes.
Un o blant Eglwys Beulah, Cwmtwrch oedd Alun J. Davies, ac fel dau arall o’i frodyr, John Glyndwr a Gerson, ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth o dan ddylanwad pregethu y Parchg Glasnant Young.  Roedd gan Daniel a Jane Davies, Bryneithin, Cwmtwrch Isaf, ddeuddeg o blant  ac Alun oedd yr ieuengaf ond un.  Nodwn enwau’r plant i gyd yn nhrefn eu geni sef Ishmael, Tabitha, David R, Tom Alcwyn, Mary, Arianwen, David D, May, John Glyndwr, Gerson, Alun, a Gwladys.
Ganed Gruffydd Wynn Owen yn y flwyddyn 1896, yn un o blant ‘Ysguborbach’, Caergeiliog, Ynys Môn.  Roedd ei dad, Edward Owen, yn Fedyddiwr selog ac yn bregethwr lleyg, a’i fam Mary Owen, yn Fethodist.  Magwyd ef felly ar aelwyd lle roedd cyfuniad o draddodiadau gorau dau enwad.  Cefnder iddo oedd...
Mae’n anodd dychmygu Garfield Eynon fel neb na dim ond gweinidog yr Efengyl.  Â’r weinidogaeth yn ffordd o fyw, yn hytrach na swydd naw i bump, gellir dweud amdano iddo fyw, siarad, anadlu, a chyflawni amryfal ofynion yr ‘uchel alwedigaeth’ am hanner can mlynedd a mwy. Ar lawer cyfrif yr...
Gŵr tawel a diymhongar oedd Vincent Evans a fu farw’n 50 oed.  Ganwyd ef yng Nghwm Tawe, yr ail-ieuengaf o un o dri ar ddeg o blant yn Rhydypandy, nid nepell o bentref Graig-Cefn-Parc, mab ieuengaf Thomas ac Elizabeth Evans yn 1919.  Rhestrwn enwau’r tri ar ddeg o blant yn...
Yn ôl ei dystysgrif geni, ganwyd Haydn John Thomas ym Mlaengarw, tra roedd ei dad yn gweithio yn y gwaith glo yno, ond yn fuan wedyn, dychwelodd y teulu i Gwmfferws, ger Tycroes, Llandybie. Roedd yn fab i Mr a Mrs Arthur Thomas ac addolai’r teulu yn Saron, Eglwys y...
Bu yng Nghymru draddodiad cyfoethog o offeiriaid a gweinidogion a oedd hefyd yn llenorion ac yn hynafiaethwyr, yn newyddiadurwyr ac yn awdurdod ar len a llafar eu bro a’u gwlad: gwyr diwylliedig, cynheiliaid traddodiad, parod i gyfrannu eu dysg a’u gwybodaeth i eraill.  Buont yn gymwynaswyr yn eu dydd a’u...
Ganwyd Edgar Owen Jones ar 3 Mai, 1912, ar fferm Maes Gwilym, Carwe, yn un o bedwar plentyn i John ac Ann Jones.  Roedd ganddo ddau frawd, Gwynfor ac Elwyn, a chwaer, Awena. Addolai’r teulu yn Siloh, capel y Bedyddwyr yng Ngharwe. Y gweinidog yno yn nghyfnod ei blentyndod oedd y Parchg M.T. Rees, gŵr a gafodd ddylanwad mawr ar Edgar.
Ganed Eilir y 7fed o Fehefin, 1927, yn Abercych, yn olaf o ddeg o blant i’r diweddar Gwilym a Martha Richards.  Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol y pentref ac Aberteifi.  Wedi rhai blynyddoedd o weithio yn siop ddillad dynion, Watts y Drapers, Aberteifi, a phregethu gylch y lle, penderfynodd ddilyn cwrs i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Tystiai’n aml i’w brofiadau yn Wattsei gymhwyso i ymdrin â phobl.
Hidlo yn ôl yr Wyddor
Hidlo yn ôl yr Wyddor