Evans – Vincent Urias Emlyn (1919-1970)

Gŵr tawel a diymhongar oedd Vincent Evans a fu farw’n 50 oed.  Ganwyd ef yng Nghwm Tawe, yr ail-ieuengaf o un o dri ar ddeg o blant yn Rhydypandy, nid nepell o bentref Graig-Cefn-Parc, mab ieuengaf Thomas ac Elizabeth Evans yn 1919.  Rhestrwn enwau’r tri ar ddeg o blant yn nhrefn eu geni  (gwelir llun y teulu cyfan ar waelod yr ysgrif)– Sarah Jane (1894-1959); Thomas (1895-1971); Ifan (1897-1958); Elizabeth (1902-74); Mary Ann (1906-81); Arthur (1902-89); Elwyn (1910-91); William 1912-86); Megan (1912-1980); Anna (1914-95); Bryn (1916-66); Vincent (1919-1970); a Ceinrose (1926-2006).Roedd ei deulu yn amlwg ym mywyd Salem Llangyfelach, gyda’i dad a’i dad-cu yn ddiaconiaid.  Bu ei frawd Arthur yn ddiacon ac yn ysgrifennydd yr eglwys yn ddiweddarach.

Prin bod unrhyw deulu gwerinol yn y dau-ddegau yn gyfforddus eu byd.  Yn llymder y cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr, gyda theulu niferus i’w porthu, nid oedd llawer o fodd i’w gael.  Rhaid bod yr hynaf wedi gadael y nyth, cyn bod yr rhai iau wedi eu geni, ond dyna a nodweddai bywyd y werin yn y cyfnod. Prin bod dewis i unrhyw blentyn ond gadael ysgol yn bedwar-ar-ddeg oed, ac ennill eu tocyn fel glöwr.  Arddegau felly bu i Vincent.

Merch o Salem oedd gwraig Vincent sef Miss Rhuana Rees, merch John a Hanna Jane Rees, ac roedd nifer o’i theulu hithau yn weinidogion, yn eu plith yr hanesydd W.J. Rhys, a wnaeth gymwynasau lu â’r enwad gan gyfrannu at gofiannau sawl eglwys yn ei dro.  Cymerodd yntau ran yng nghyrddau ordeinio a sefydlu Vincent ac yn amlwg roedd gan y gweinidog ifanc barch mawr at ewythr ei briod.

Fel amryw o aelodau’r teulu, daeth yn aelod yn eglwys Salem, gan gymryd rhan yn addoliad yr eglwys.  Ymhen y rhawg ac o dan weinidogaeth y Parchg Ben Lewis, dechreuodd bregethu yn 1943 a theimlo’r alwad i fod yn weinidog. Bu’n egnïol iawn yn cymhwyso ei hun a  derbyniwyd ef yn yn 1945 fel myfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor.

Bu 1948 yn flwyddyn bwysig yn hanes Vincent Evans, gan iddo ef a Rhuana briodi yn mis Hydref y flwyddyn honno.  Cynhaliwyd y briodas yn Salem, a seliwyd y berthynas gariadlon, ddedwydd rhyngddynt.  Ym mis Mehefin y flwyddyn iddo, cafodd ei ordeinio a’i sefydlu yn weinidog yn eglwys Caersalem Ystalyfera, yng nghanol Cwm Tawe.  Byddai wedi adnabod y cwm erioed, a byddai yn gyfarwydd â natur y boblogaeth yno.  Treuliodd ddegawd gynhyrchiol yno yn gofalu am ei braidd ac yn cyfrannu i fwrlwm y dref. Yn ystod y cyfnod hwn, ganwyd Tecwyn ac Euros, a’r ddau fel eu mam yn gerddorion arbennig.  Yno hefyd y daeth yn gyfarwydd â’r Parchg R. J. Williams, (Caerau, Maesteg yn ddiweddarach), a buont yn gyfeillion pennaf gydol oes.

Yn 1958, derbyniodd wahoddiad i symud i Gwm Taf gan adael y fro ddiwydiannol ym Morgannwg ei fagwraeth i ardal amaethyddol a diwylliedig Login.  Ymsefydlodd yn hawdd i’w ofalaeth newydd ac ymserchodd yn aelodaeth yr eglwys.  Roedd digon o gyfle i gerdded ffyrdd y wlad, a physgota yn eu hafonydd.  Roedd wedi dod i adnabod iaith a gwerthoedd amaethyddiaeth yn ei arddegau, ac roedd yn gwbl gyfforddus yng nghwmni yr ardal agored hon.  Yn  1967 ychwanegwyd Ramoth, Cwmfelin Mynach at ei ofalaeth.  Dyna oedd y drefn hyd at ddechrau’r dauddegau, ac roedd y ddwy gynulleidfa yn falch o ddychwelyd iddi ac  yn gyfforddus yng nghwmni eu gweinidog rhadlon a’i deulu. Gwelodd lawer o newidiadau yn rhengoedd y weinidogaeth yn y fro rhwng y Taf a’r  Cleddau, gyda mawrion fel D.J.Michael, Joseff James, Llandisilio, Cadwaladr Wiliams Henllan Amgoed, Matheias Davies y Gelli, yn gadael, a gweinidogion ifancach yn llenwi’r bylchau.  Croesawodd wŷr egnïol fel Byron Evans, ei nai,(mab ei frawd Arthur) i Flaenconin, Ieuan Davies i Landisilio, Aled Gwyn Jones i Henllan, Towyn Jones a Jeff Williams gyda’r Annibynwyr yn uwch yn Nyffryn Taf.  Pontiodd gweinidog Login y ddwy genhedlaeth yn hawdd, gan ddysgu oddi wrth y naill a thywys y llall i adnabod ardal eang a chyfoethog.  Roedd ei anghydffurfiaeth yn gydnaws a chymeriad y fro, a ffurfiwyd Cymdeithas Hywel Dda, sef cymdeithas Gristnogol i’r eglwysi ym mröydd y Taf a’r Cleddau.  Roedd Vincent yn ei elfen yn gweld ei feibion ei hun yn cyfrannu’n egnïol i fwrlwm y gymuned hon.  Bu’n heddychwr ers ei ieuenctid, a chafodd ei gorfestru fel Gwrthwynebydd Cydwybodol yn 1939.

Gyda thristwch enbyd, ac yntau ond yn 49 mlwydd oed, dioddefodd drawiad ar y galon, gan olygu ei fod yn gorfod dal nôl ar llawer o’i weithgareddau.  Cryfhaodd  ychydig ond ym mis Mehefin 1970, bu  farw gweinidog Calfaria a Ramoth, gyda’r ardal gyfan mewn sioc yn hiraethu ar ôl un a fu’n annwyl gan bawb.  Arweiniwyd ei wasanaeth angladdol yng Nghalfaria gan y Parchg Byron Evans, a’i gladdu ym mynwent Salem.  Cymerwyd rhan gan nifer o weinidgion y fro a chyfeillion eraill yn yr enwad.   Crynhöwyd llawer o’r sylwadau gan W.J. Byron Evans am ei ewythr mewn cofiant yn nyddiadur UBC 1971 pan ddywedodd ‘Bugail ffyddlon i’w braidd a chymwynaswr parod ardal gyfan”.

Byddai y tad wedi bod yn falch o dystiolaeth y ddau fab ar daith bywyd.  Ymdeimlodd Tecwyn â’r alwad i’r weinidogaeth gan gael ei dderbyn fel myfyriwr yn yr un coleg a’i dad yn 1971 a’i sefydlu yn weinidog yn Carmel, Pontrhydfendigaid a Bethel Swyddffynnon; Eglwysi Bedyddiedig Cylch Sancler,  ac yn hwyrach i fod yn weinidog yn Login, Cwmfelin a Hendygwyn-ar-Daf, cyn dychwelyd i’r gogledd a bod yn weinidog cenhadol yng Nghymanfa Dinbych, Fflint a Meirion.  Yr un modd, bu Euros yn athro yn Ysgol Gyfun Llanharri cyn dilyn gyrfa ym myd y cyfryngau ac fel darlithydd ac arholwr cerdd. Ymaelododd yn Eglwys y Tabernacl, Caerdydd gan wasanaethu fel organydd a diacon. Bu’n gwasaanethu fel arweinydd côr yr eglwys am gyfnod a chefnogu pawb sy’n hyrwyddo cerdd a chenhadaeth. Bu galw arno hefyd i arwain Cymanfaoedd Canu yng Nghymru ac mae wedi cyfansoddi nifer o emyndonau poblogaidd.   Bu’r ddau frawd yn amlwg ar lwyfannau canu cyfoes, ac roedd y ddau yn aelodau gwreiddiol o’r grŵp ‘Perlau Taf’. Bu Tecwyn yn canu gyda’r grŵp ‘Ac Eraill’ cyn datblygu gyrfa fel canwr unigol. , a bu Euros yn gyfeilydd i nifer o artistiaid yn gyson.  Symudodd Rhuana Evans i Gaerfyrddin yn 1971  ac ymaelodi yn Penuel, ac yna’n ddiweddarach y Tabernacl, Caerfyrddin a derbyn cyfrifoldeb fel arweinydd y gân yno. Gwnaeth ffrindiau lu yn y dref gan fyw bywyd llawn.  Bu farw yn 2010.

 

Cyfrannwr:  Denzil Ieuan John

Rhes gefn:

Mary Ann (1906-81); Vincent  (1919-70);  Bryn (1916-66); Ceinrose (1926-06);
Arthur (1908- 89);  Anna (1914-95); Elwyn 1910-91) William ( 1912-86); Megan (1912-1980)

Yn eistedd:

Ifan (1897-1958); Sarah Jane (1894-1959); Thomas (1872-1946 ); Elisabeth (1875-1949);
Thomas ( 1895-1971 ); Elizabeth (1902-74).