Jones – Isaac (1847 – 1914)

Isaac Jones

Ganwyd Isaac Jones yngh Nghastell Nedd yn 1847.  Symudodd gyda’i deulu i Ferthyr Tudful a dechreuodd weithio yn y lofa leol yn naw oed.  Wedyn symudodd y teulu i Bontypridd lle gweithiodd yn y Chain Works a hefyd ym mhwll glo’r ‘Great Western’.  Hannai Isaac Jones o deulu Bedyddwyr blaenllaw – roedd yn nai i’r Parchg Dr James Richards, Carmel, Ponytpridd (Tabernacl wedyn).  Yn ei ddydd, disgrifiwyd Dr Richards ‘yn dal swydd ddihafal fel y pregethwr gorau yng Nghymru’. Bedyddiwyd Isaac Jones gan ei ewythr yn ddeuddeng mlwydd oed.

Dechreuodd bregethu yn un ar bym,theg oed yn Nhrefforest.  Ymhlith y lleoedd a bregethodd ynddynt Isaac Jones ar ddechrau ei yrfa oedd yr ‘Ystafell Hir’ yn Nhafarn Glynrhedynog, Blaenllechau.  Nid oedd capel gan y Bedyddwyr yn y Rhondda Fach y pryd hynny.  Yn 1866, fe’i derbyniwyd i astudio yn Athrofa Llangollen.

Ar  ôl derbyn galwad, ordeiniwyd ef i’r weinidogaeth yn Eglwysi Bedyddwyr Bryntroedcam a Phont-rhyd-y-fen yn 1869.  Arhosodd am bum mlynedd ac yn y cyfnod hwnnw cyfarfu â’i wraig, Miss Perkins.  Symudodd i Betws a Chwmgarw yn 1874, ac o dan ei arweinyddiaeth, adeiladwyd capel gwerth £1800.  Symudodd eto i Dondu yn 1880.

Derbyniodd alwad i Salem Newydd yn 1881 ac arhosodd yno am 33 blynedd hyd ei farwolaeth yn 1914.  Dywedir amdano ei fod yn bregethwr a oedd yn nodweddiadol o’i gyfnod.  Roedd yn draddodwr tanllyd a brwdfrydig, ac yn ôl Thomas Johns, edmygwyd Isaac Jones yn ei bulpud, ond roedd ar ei orau yn y Cwrdd Gweddi, y gyfeillach ac ar lan y bedd. Dywedir amdano gan ei gyd-weinidogion ei fod yn ‘meddu ar amlygrwydd mawr ac yn llydan ei ysbryd’.  Bu’n dioddef afiechyd am gyfnodau hir, ond bu’r eglwys yn ofalus ohono a’i garu’n fawr. Dywedwyd ym mhapur lleol y ‘Darian’ i Isaac Jones weinidogaethu gyda pharch a dylanwad mawr yn Ferndale am flynyddoedd lawer.

Gadawodd bump o blant gan gynnwys un mab amddifad, Isaac, a fabwysiadwyd gan y Parchg a Mrs Jones.  Claddwyd weddillion y gweinidog ym mynwent Glynrhedegog a thalwyd holl dreuliau’r angladd gan yr eglwys.

Cyfrannwr:  Codwyd y cofiant hwn o lyfr Peter Brooks am Hanes Eglwys Salem Newydd.

Llyfryddiaeth

Eglwys y Bedyddwyr Salem Newydd.  Awdur a chyhoeddwr Peter Brooks.