Thomas – Haydn John (1911-1968)

Yn ôl ei dystysgrif geni, ganwyd Haydn John Thomas ym Mlaengarw, tra roedd ei dad yn gweithio yn y gwaith glo yno, ond yn fuan wedyn, dychwelodd y teulu i Gwmfferws, ger Tycroes, Llandybie. Roedd yn fab i Mr a Mrs Arthur Thomas ac addolai’r teulu yn Saron, Eglwys y Bedyddwyr, Llandybie.  Roedd ganddo ddau frawd a deimlodd yr alwad i bregethu sef y Parchg Redding Thomas a Mr W.G.Thomas a benderfynnodd fynd yn athro yn yr Ysgol Fodern yn Llandybie.  Ordeiniwyd Redding yn Eglwys y Bedyddwyr yn Dudley, swydd Caerwrangon,  wedi ei hyfforddu yng ngholeg yr enwad ym Mryste.  Graddiodd y tri gyda B.A.   Gweinidog yr eglwys yn Saron yn ystod plentyndod y bechgyn hyn oedd y Parchg Richard Lloyd ac ef a’u bedyddiodd a’u derbyn i aelodaeth yr eglwys.

Cyn mynd i Goleg yr enwad ym Mangor, bu Haydn yn gweithio yn y lofa leol, eraill yn y teulu. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n astudio yng Nghoelg Ilston a derbyn llawer o gefnogaeth gan ei gyd-weithwyr yn y lofa.  Wedi cyfnod yng Ngoleg y Bedyddwyr ym Mangor, ordeiniwyd ef yn 1940 yn weinidog ar ddwy eglwys Saeneg  sef Ebenezer, Cefnmawr a Memorial, Llangollen.  Priododd yn Nhachwedd y flwyddyn honno gyda Miss Miriam Myfanwy Jones, aelod yn eglwys Ebeneser, Rhydaman, yn y Tabernacl, Caerfyrddin. Cafodd amser difyr ynyng Nghlwyd, gan fwrw ei brentisiaeth cyn symud i Gaergybi a’i sefydlu yn 1943 yn New Park Street, a threulio saith mlynedd ar Ynys Môn, eto mewn eglwys Saesneg ei hiaith. Yn ystod y cyfnod hwn teithiodd yn gyson i Fangor a graddio yno.   Dyma’r adeg y ganwyd ei ddwy ferch, sef Heather a fu’n athrawes, gan fyw yng Nghlunderwen, Sir Benfro ac a gafodd dau o blant, a Kaye a dderbyniodd hyfforddiant fel nyrs, ac a fu’n byw yng Nghaerffili a Llanelli gan fagu pedwar o fechgyn gyda’i phriod Neville Daniel.

Yn 1950, derbyniodd Haydn wahoddiad i fod yn weinidog yn un o eglwysi hynaf yr enwad wrth droed y Preselau yn Rhydwilym.  Roedd wedi profi ei hun fel pregethwr bywiog yn y ddwy iaith, ac roedd wrth ei fodd ynghanol bobl gwerinol a diwylliedig godre’r Preselau. Dywedodd y Parchg Eirwyn Morgan, un arall a godwyd i’r weinidogaeth yn Saron,  am Haydn, ei fod yn “llithrig a huawdl yn y ddwy iaith a’i fod welwyd ef fel cymwynaswr parod i’r bobl”, ac yn hoff gan bawb. Ni fyddai yn defnyddio nodiadau wrth bregethu, ond llwyddodd i gyflwyno ei neges yn glir ac yn gadarn. Yn ôl ei ferch Kaye, byddai ei thad yn mwynhau pysgota ar lan yr afon Cleddau, ac yn llunio ei bregethau yno. Roedd rhyw fywiogrwydd drwyddo a’i lygaid yn pefrio. Roedd angerdd yn ei bregethu ac ymroddiad yn ei waith. Anwylodd aelodau eglwysi ei ofal, ac ymddiddorai yn hanes holl drigolion yr ardal lle trigai ynddi.  Bu farw’r Parchg Haydn Thomas yn gwbl ddisymwth ar 26 Tachwedd 1968, a hynny, ond ychydig fisoedd ar ôl llywyddu cyfarfodydd dathlu tri chan mlwyddiant yr eglwys. Roedd ond 57 mlwydd oed ar y pryd.  Gwasanaethodd Miriam, ei briod, fel athrawes theipio a llaw-fer yn Ysgol y Preseli am flynyddoedd, ac wedi ennill ei phlwyf, fel ei gŵr, yn yr ardal. Roedd yn hynod boblogaidd gyda’i disgyblion, a llawer ohonynt yn ddiolchgar iddi am yr hyfforddiant gyrfaol a gawsant ganddi. Bu ei fam yn byw gyda hwy yn eu cartref ym Mryngwilym, am gyfnod olaf ei bywyd, a bu hithau farw ond wythnos o flaen ei mab, gan adael ei weddw a’i ferched i alaru ar eu hôl.

Roedd yn hoff o ardal Tŷ-ddewi, am fod ei dad-cu, John Thomas, a fu’n gapten llong a gludai lô o Sir Benfro yn arfer byw yno.  Byddai Haydn yn mwynhau tywys ei ymwelwyr yno er mwyn talu gwrogaeth i’r teulu a mwynhau golygfeydd yr ardal. Hoffai weinidog Rhydwilym yrru ceir cyflym, a byddai wrth eu fodd yn ‘hedfan’ ar hyd y ffyrdd.  Person felly oedd wrth reddf, yn llawn bwrlwm a phwrpas. Coffa da ohono.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John