Richards – D. Eilir (1927-2015)

Ganed Eilir y 7fed o Fehefin, 1927, yn Abercych, yn olaf o ddeg o blant i’r diweddar Gwilym a Martha Richards.  Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol y pentref ac Aberteifi.  Wedi rhai blynyddoedd o weithio yn siop ddillad dynion, Watts y Drapers, Aberteifi, a phregethu gylch y lle, penderfynodd ddilyn cwrs i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Tystiai’n aml i’w brofiadau yn Wattsei gymhwyso i ymdrin â phobl.  Ymfachiai bob amser yn ei fam eglwys, Ramoth, a chydnabyddai fod arno ddyled i ffyddloniaid yr eglwys ac i’w weinidog, W. D. Smith, am ei annog i fentro i’r weinidogaeth.  Eilir a fyddai’r cyntaf hefyd i gyfaddef fod arno ddyled ddifesur i’w briod – merch o gyffelyb gefndir a diddordebau ac o’r un ardal.  Bu Megan yn gaffaeliad mawr iddo yn y weinidogaeth.  Cadwai ddrws agored bob amser, estynnai groeso twymgalon i bob ymwelydd, a rhannai gyda Eilir ei hoffter o gerddoriaeth a chanu cynulleidfaol.  Golygai estyn galwad i Eilir a Megan gael dau gyfeilydd ac arweinydd canu ychwanegol! Mor hoff oeddent o ganu fel y golygai hefyd chwyddo y moliant. A welwyd erioed weinidog hapusach â rhaglen Cymanfa Ganu yn ei ddwylo?

Ar ddiwedd ei gwrs ym Mangor, ac yntau wedi mwynhau yn fawr y cyfnod yn ddiwylliannol a chymdeithasol, derbyniodd alwad i Fancffosfelen, a’i ordeinio ym 1961.  Arhosodd yno’n ddigon hir ( 1961-1976) i’w gyfeillion ddechrau ei gyfarch fel “Richards y Banc”  Symudodd wedyn i Dreletert (1976-1981).  Fel yn ei faes cyntaf enillodd barch ac ymddiriedaeth ei bobl yn ddidrafferth gan mai un o’i gryfderau mwyaf oedd ei ofal cydwybodol o’i braidd.  Mewn adeg pryd nad yw ymddangosiad allanol yn cyfrif rhyw lawer cymerai ofal manwl o’i ddiwyg allanol a gwae unrhyw weinidog na chydymffurfiai â’i syniad o fel ddylai gweinidog ymddangos.  Ystyriai goler a thei a siwt ac esgidiau glân yn rhan o’r arfogaeth.

Er syndod a siom i’w gyfeillion yn ei sir enedigol penderfynodd ei bod yn adeg symud unwaith eto.  Derbyniodd alwad i Fethesda, Glanaman.  A minnau’n weinidog cyfagos ar y pryd datblygodd y cyfeillgarwch rhyngom a dechreuom adnabod ein gilydd yn well  Un ddolen gyswllt bwysig rhyngom oedd y ffaith i mi am gyfnod fod yn weinidog ar ei fam-glwys yn Ramoth.  Nid oedd a roddai fwy o bleser iddo ef a Megan na chroesawu at y bwrdd a sgwrsio tan oriau mân y bore. Yn aelod brwd o Ysgol Haf y Gweinidogion, bu’n drysorydd ffyddlon i’r Ysgol  am gyfnod,  hoffai rannu storïau am gewri’r pulpud a gofiai.  Dyma pryd y sylweddolais ei fod yn cadw cofnod manwl o’i weinidogaeth. Gwyddai i’r dim yr union nifer y bu iddo eu bedyddio, eu priodi a’u claddu ym mhob un o’i feysydd.  Gresyn mewn gwirionedd na fyddai’r manion rheiny ar gael i hanesydd gael eu trafod.

Ar ôl cwta chwe blynedd yng Nglanaman (1981-87) dyma symud i’w faes olaf yn Llangennech; eglwys y gellir dweud amdani ei bod yn siwtio Eilir a Megan i’r dim, yn eu ffitio fel maneg oherwydd fod yn Salem draddodiad cerddorol cryf a chyfoethog.  Daeth newid ar fyd.  Bu marwolaeth Megan ar ôl cyfnod o gystudd creulon yn ergyd galed iddo. Bu’n gyfaill da i’w gyd-weinidogion, a trysorodd eu cefnogaeth iddo yn ei brofedigaeth. Gwaelodd ei iechyd ei hun ac yn 1987, penderfynnodd mai doeth fyddai ymddeol a dychwelyd i Aberteifi.

Bu cyfeillion Bethania yn falch o’i wasanaeth gan iddo, pan yn rhydd, fod yn ffyddlon i’r oedfaon ac yn gefnogol i’r cyfarfodydd gweddi wythnosol. Bu yng nghwrs y blynyddoedd yn dra ffyddlon a theyrngar i’w enwad gan fynychu y Cyfarfodydd Chwarter a’r Cymanfaoedd a chynadleddau yr Undeb yn selog.  Treuliodd ei flynyddoedd olaf mewn cartrefi gofal a nyrsio yn Aberteifi.  Gellir crynhoi ei weinidogaeth trwy ddweud amdano iddo ufuddhau i’r anogaeth,  “Bugeiliwch braidd Duw yn eich gofal …”.  Bu farw ar ôl cystudd hir a chaled yng nghartref nyrsio, Brondesbury, Aberteifi, a chynhaliwyd ei angladd ar y 7fed o Fai yn Amlosgfa Arberth.  Gorwedd ei lwch ym mynwent Blaenwaun.  Diolchwn amdano fel gweinidog Duw, cymwynaswr dynion a chyfaill i’w frodyr.  Canlynwyr yr Oen, tra nefoedd yn bod, / A thafod a thant, a ganant ei glod.

Cyfrannwr: Irfon C. Roberts.