Jones – Williams Rhys (Gwenith Gwyn) (1858-1937)

Bu yng Nghymru draddodiad cyfoethog o offeiriaid a gweinidogion a oedd hefyd yn llenorion ac yn hynafiaethwyr, yn newyddiadurwyr ac yn awdurdod ar len a llafar eu bro a’u gwlad: gwyr diwylliedig, cynheiliaid traddodiad, parod i gyfrannu eu dysg a’u gwybodaeth i eraill.  Buont yn gymwynaswyr yn eu dydd a’u hoes ac yn eu plith roedd William Rhys Jones (Gwenith Gwyn).

Ganwyd William Rhys Jones ar 30 Rhagfyr, 1858 ym Mron Cerys, Y Fach-wen, Deiniolen, Sir Gaernarfon, yn fab i Hannah a David Jones, a oedd yn aelodau yng nghapel Sardis, Dinorwig. Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Dinorwig, Ysgol Ramadeg Friars, Bangor, ac yn y Collegiate School, Lerpwl. Bu wedyn yn brentis am bedair blynedd mewn siop ddillad, gan ddilyn cwrs hefyd ar sut i gadw llyfrau. Dechreuodd bregethu’n fuan wedi cael ei fedyddio yn Amlwch gan y Parchg Edward Evans, a phenderfynodd fynd i’r weinidogaeth.  Ym Medi 1890 aeth i Athrofa’r Bedyddwyr yn Llangollen, a symud, yn 1892 gyda’r Athrofa i Fangor. Cafodd yrfa ddisglair fel myfyriwr gan ennill ysgoloriaethau Mona, Y Sylfaenwyr ac un y Dr. Pritchard.

Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda’r Bedyddwyr yn Nhachwedd 1892 a’i sefydlu yn Horeb, Penrhyn-coch, sir Aberteifi.  Bu yno am ddwy flynedd, cyn derbyn gwahoddiad i fod yn weinidog yn Jerwsalem, Penrhiw-ceibr, ger Aberdar.  Dyma enghraifft o weinidog yn gweld y cymoedd diwydiannol yn atyniadol, a bu William Rhys Jones yno am ddeunaw mlynedd hyd at 1912. Yr ofalaeth nesaf iddo oedd Seion Llansanffraid Glynceiriog a changhennau yn Nhandy Melin Deirw a Nantyr, Sir Ddinbych rhwng 1912 a 1923. Dychwelodd i’r de a chartrefu yng Nghalfaria, Tregatwg ger y Barri, ym Mro Morgannwg.  Yn ystod ei weinidogaeth ym Mhenrhyn-coch bwriadai ddilyn cwrs gradd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a hynny ar anogaeth y prifathro,  ond oherwydd afiechyd, ni fu hyn yn bosibl.

Priododd yn 1894 gyda Ethel Hilda Jones, merch i Henry Hughes, Dee Bank, Llangollen. Fe’i ganed hi 24 Chwefror 1875 a bu farw 20 Mawrth, 1930.  Ar hyd yr amser bu’n gefn mawr i’w phriod yn ei holl waith ac yn cyd-rannu’i ddiddordebau, yn arbennig mewn natur a seryddiaeth. Cofir amdani’n bennaf oherwydd ei gofal diflino o gleifion ac anffodusion cymdeithas.  Bu’r Parchg William Rhys Jones farw 2 Chwefror 1937, a chladdwyd ef gyda’i briod ym Mynwent Merthyr Dyfan, y Barri ar Chwefror 6ed.

Ysgrifennodd Lewis Valentine amdano yn Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, Llansanffraid, Glynceiriog (1965) “ni fu gwas mwy diwyd yng ngwinllan ei Arglwydd ac yn mae ei enw yn perarogli hyd y dydd hwn”.  Lluniodd Gwenith Gwyn gorff sylweddol o lawysgrifau ac enghraifft ohonynt yw’r pedair cyfrol drwchus ‘Ddoe a Heddyw yn Nyffryn Ceiriog’, sydd dros 600 tudalen ac yn fwynglawdd o wybodaeth. Roedd yn awdur toreithiog, yn bregethwr poblogaidd, ac yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Coleg Prifysgol Cymru, Bangor ac yna Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd; aelod o Bwyllgor Rheoli Ysgol Ramadeg Llangollen; cadeirydd Pwyllgor Rheoli Ysgol Elfennol Llansanffraid Glynceiriog; cadeirydd ac un o ymddiriedolwry Neuadd Goffa Ceiriog, ac yn aelod o bwyllgorau llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd a’r Barri.

Wrth ystyried nodweddion ei fywyd, nodir ei ddiwydrwyd, ei drefnusrwydd a’i garedigrwydd. O gofio ei ddiwydrwydd, hawdd deall pam yr awgrymodd ei briod yr enw ‘Gwenith Gwyn’ iddo pan urddwyd ef yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar yn 1905. sy’n adlais o’r adnod “edrychwch ar y meysydd, canys gwynion ydynt i’r cynhaeaf”, (Ioan 4:35).  Ceir llawer o enghreifftiiau o’i gyfeillion yn ei rybuddio rhag gor-weithio ac mewn ambell lythr personol, cyfaddefa Gwenith Gwyn iddo fod yn flinedig iawn. Byddai yn cofnodi popeth a welai ac a glywai, gan gynnwys yr hyn roedd wedi sylwi arno ym myd natur mewn llyfrau lloffion gwerthfawr.  Bu’n garedig iawn wrth rannu ei gyfeillgarwch, ei dalentau a’i wybodaeth.

Anthropolegydd oedd William Jones ac yn rhoi ‘cof yr hil mewn cyfrolau’. Gwelodd ystod eang y weledigaeth a gafodd gan nodi hanes yr ardaloedd lle bu’n byw. Nododd y bwyd roedd y bobl hyn yn eu fwyta, y dillad roeddent yn ei wisgo. Nododd hefyd fanylion  am y  moddion a’i cadwodd yn iach. Pwysodd yn drwm ar iachau drwy ffydd, ac ysgrifennodd yn ei ddyddiadur ar ddydd Nadolig 1936, ond mis cyn ei farwolaeth,iddo

“dreulio’r dydd yn ffyddiog a dedwydd.  deahrau ysgrifennu adrannau o’r Beibl i ffurfio Beibl y Claf.
Y rhannau sy’n cryfhau ffydd mewn iachad drwy ffydd”

Credai bod y traddodiad a berthynai iddo werth ei gofnodi a’i gynnal. Dyma oedd galw ddoe yn ôl nid er mwyn ddoe, ond oherwydd ei fod yn credu mewn heddiw ac yfory.

Ddyddiau cyn ei farwolaeth, ac yntau wedi methu mynd i’r oedfa lluniodd yr emyn canlynol a’i ddarllen yn y capel:

Dan law cystudd gwylaf blygaf
Wrth dy orsedd rasol Di;
Arglwydd Iesu bydd drugarog
Yn dy gariad cofia fi.
Rho im brofi nawr Dy allu,
Cadarn ydwyt i iachau,
Boed fy ffydd yn drech na’m pryder
Yn dy fwriad i’m gwellhau.

 

Holl gyflawnder nerthoedd cariad,
Anfesurol gariad Duw,
Yn gorfforol ynot erys
Nerthoedd gwyd y marw’n fyw.
Yn hyderus y dynesaf
Atat ti er maint fy mhla,
At bwy arall trof fy wyneb,
Ti yw’m dwyfol feddyg da.

Cyffwrdd a mi, feddyg tirion,
Dwylo’r hoelion arnaf dod,
Fel y gallwyf, gyda hyfdra
Yn ddiarbed seinio’th glod.
Dwed y gair a’m holl gystuddiau
A ddiflannant yn y fan,
Ti addewaist y perffeithiet
Nerth dy gariad yn y gwan.

(Mae’r uchod yn dalfyriad o ysgrif werthfawr o eiddo Robin Gwyndaf a gyhoeddwyd yn Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr 1980)