Owen – Gruffydd Wynn (1896-1979)

Gruffydd OwenGaned Gruffydd Wynn Owen yn y flwyddyn 1896, yn un o blant ‘Ysguborbach’, Caergeiliog, Ynys Môn.  Roedd ei dad, Edward Owen, yn Fedyddiwr selog ac yn bregethwr lleyg, a’i fam Mary Owen, yn Fethodist.  Magwyd ef felly ar aelwyd lle roedd cyfuniad o draddodiadau gorau dau enwad.  Cefnder iddo oedd y Parchg D. R. Owen a wasanaethodd yn Nefyn ac Amlwch, a  hefyd Idwal Jones y Rhos.  Brawd iddo oedd R. J. Jones, Porth Amlwch, un o weinidogion disglair yr Hen Gorff, ac yn sicr yn arwr mawr i Wynn yn ei gyfnod cynnar.

Ar ôl gadael ysgol y sir yng Nghaergybi, bu’n dysgu am dymor yng Nghaergeiliog, cyn llwyddo yn arholiad mynediad Coleg y Bedyddwyr ym Mehefin 1913.  Prifathro’r coleg oedd y Parchg Silas Morris gyda’r Parchg J.T. Evans yn swydd yr Athro.  Enillodd wobr am “Welsh Reading and Elocution” ac hefyd am redeg  dros y brifysgol. Aeth o goleg Bangor i Goleg West Hill, Birmingham i ddysgu mwy am ‘Gwyddor a Chelfyddyd Addysg yn yr Ysgol Sul’.

Ordeiniwyd ef i’w faes cyntaf yng Nghaersalem, Abergwynfi ym mis Mai 1921.  Yno y cyfarfu â Celia Jenkins, prifathrawes Ysgol y Caerau oedd yn weithgar iawn yn eglwys Caersalem. Ar ôl priodi aethant i fyw i’r mans ym Mlaengwynfi ac yno ganed eu dau fab, sef Meurig ac Emrys.  Yno buont byw fel teulu am bedair blynedd, ynghyd â Mrs Elizabeth Jenkins, mam Celia.  Er mai cyfnod byr y bu Wynn yno, bedyddiodd llu o bobl ifanc rhwng Caersalem a Bethel, sef yr eglwys fechan Saesneg ei hiaith.

Yn 1929, symudodd i Donyfelin, Caerffili.  Er gwaethaf y dirwasgiad economaidd yng nghymoedd Morgannwg yn y tridegau, cafodd Wynn Owen gefnogaeth dda.  Ymegniodd yr aelodau gyda’u gweinidog ifanc i godi adeilad wrth gefn y festri er mwyn ymestyn gwaith yr ifanc yn yr eglwys. Galwyd yr adeilad hwn yn Ysgoldy Goffa Christmas Evans.  Yr oedd cynifer â 300 o ddisgyblion yn yr ysgol Sul ar un adeg yn ei weinidogaeth.  Llafuriodd Wynn Owen gyda chylchgronnau fel ‘Yr Heuwr’,  a’r ‘Arweinydd Newydd’ a bu’n darlithio’n gyson mewn ysgolion preswyl yng Ngholeg Harlech.  Yn fynych ar y Sadwrn, byddai’n mynd â Meurig ac Emrys i wylio pêl-droed ym Mharc yr Arfau.  Yn ystod y cyfnod hwn y ganwyd Mary, a dod â llawenydd mwy i’r aelwyd.

Derbyniodd alwad yn 1939 i fugeilio eglwys Hermon Abergwaun, a dechreuodd ei waith yno ar Fedi 3, sef y Sul y cyhoeddwyd yr Ail Rhyfel Byd.  Treuliodd dwy flynedd ar hugain llwyddiannus yn Abergwaun, a dywedodd Osborne Thomas, un o’i olynwyr yno, “gweinidogaeth ddeublyg ydoedd, rhyngddo ef a’i briod fedrus”. Dyma gyfnod y cynulleidfaoedd lluosog, gan fod yn agos i 600 o aelodau yn Hermon pan sefydlwyd Wynn Owen yn weinidog yno.  Yr oedd ganddo ddiddordeb byw mewn pobl, ac yn arbennig y bobl ifanc. Cadwai gyswllt cyson gyda’r bechgyn ifanc, gyda’r bechgyn ‘oddi cartref’, yn ystod y rhyfel.  Pregethu oedd ei prif ddawn, a gwelid tystiolaeth o’i ddarllen eang yn y pulpud, ac yn amlwg, roedd yn feddyliwr blaengar.  Dywedir ei fod o flaen ei amser ac yn weinidog a hyrwyddodd agweddau newydd gyda gwaith yr Ysgol Sul.

Anogai bobl ifanc yr eglwysi i gymryd rhan yn gyhoeddus, ac yn eu plith oedd y Parchg John Roberts, a fu’n weinidog am yn agos i ddeugain mlynedd a hynny ar ôl gyrfa ym myd addysg am 30 mlynedd.   Roedd yntau yn ddiacon ifanc ac yn athro Ysgol Sul yn Hermon Abergwaun, pan anogodd Wynn Owen ef i ddechrau pregethu. Dywed hefyd fel roedd Mrs Owen yn batrwm o wraig i weinidog ac yn gefn i’w phriod ym mywyd yr eglwys.

Nodwedd amlwg yn eu bywyd oedd eu lletygarwch.  ‘Roedd drws agored bob amser ar eu haelwyd, a chroeso i bobl ifanc ac i weinidogion yr enwad.  Cofia Mary lawer o sgwrsio gyda’u hymwelwyr yn oriau hwyr y nos.

Wedi ymddeol, yn 1961, arhosodd y ddau yn Abergwaun. Bu’n rhaid iddynt wybebu tristwch creulon yn 1973, pan fu farw eu mab Meurig, ac yntau yn brifathro Coleg Rhyngwladol Singapore.  Treuliodd y ddau eu blynyddoedd olaf ar aelwyd eu merch Mary a’i phriod hithau Morton Reynolds yn Dudley.  Yno bu farw Celia Wynn Owen yn 1976 a thair blynedd yn ddiweddarach bu farw Gruffydd Wynn Owen yn 1979.

Cyfrannwr:

Mrs Mary Reynolds. (Merch Wynn a Celia Owen)