Eynon – William Garfield (1924 -2007)

William eynonMae’n anodd dychmygu Garfield Eynon fel neb na dim ond gweinidog yr Efengyl.  Â’r weinidogaeth yn ffordd o fyw, yn hytrach na swydd naw i bump, gellir dweud amdano iddo fyw, siarad, anadlu, a chyflawni amryfal ofynion yr ‘uchel alwedigaeth’ am hanner can mlynedd a mwy. Ar lawer cyfrif yr oedd yn batrwm o weinidog Ymneilltuol Cymraeg, un y mae ei debyg yn prysur ddiflannu o’r tir.

Nid gweinidog ydoedd i ddechrau. A’i rieni (William John a Gertie Eynon, Cilsant, Cwmfelim Mynach – Waunffrwd cyn hynny, lle ganed Garfield) yn amaethwyr, peth cwbl naturiol iddo, wrth adael ysgol Cwmbach yn bedair ar ddeg oed, oedd cydio yng ngorchwylion y tir. Dyma ddyddiau lladd gwair a malu llafur, a ‘does dim dwywaith i’r llwch amharu ar ei frest, a chyfyngu ar ei anadl, am weddill ei oes.

Cartref ysbrydol y teulu oedd eglwys Ramoth, Cwmfelin, a chafodd dau o weinidogion y cyfnod – sef B.M. Davies ac O.J. Hughes – ddylanwad ffurfiannol ar y gwas ffarm ifanc, a’i gymell i droi ei olygon tua’r weinidogaeth, a hynny heb fawr o gymwysterau addysg, ac mewn oes pan oedd adnoddau ariannol yn brin. Mae’n rhaid iddo fod yn fyfyriwr diwyd yn Ysgol Baratoi Myrddin a Choleg y Presby, Caerfyrddin, oherwydd ar derfyn ei gwrs, a’r Athro M.B. Owen yn ei gymell yn daer i gynnig am y mature matric, fe’i derbyniwyd i Goleg y Brifysgol, Abertawe, lle yr enillodd radd yn y Celfyddydau, er mawr glod iddo.

Cychwynnodd ar ei weinidogaeth yng Nghwm Rhondda yn 1953, lle y daeth o dan gyfaredd y Parchg. J.M. Lewis, Treorci, yntau hefyd â’i wreiddiau’n ddwfn yn naear Sir Gâr, ac yn gynnyrch eglwys Calfaria, Login. Yno hefyd y cyfarfu â’i ddarpar gymar, Ceridwen, a bu’r bartneriaeth rhwng y ddau yn un ddedwydd anghyffredin, gyda’r naill yn cefnogi’r llall ym mhob maes y buont yn gwasanaethu ynddo, sef: Nebo, Ystrad a Siloam, Gelli (1953-56); Seion, Cwmaman, Aberdâr (1956-1962); Ebeneser, Rhydaman (1962-1975); Ebeneser, Aberafan (1975-79) a’r Tabernacl, Caerfyrddin (1979-1987).

Nid oes rhaid edrych ymhellach na’r Testament Newydd i ddod o hyd i ddisgrifiad cwbl addas o bersonoliaeth ac ymroddiad ein cyfaill. Fe’i ceir yn nheyrnged Paul i un o’i gydweithwyr: “Er mwyn i chwithau wybod fy hanes, a beth yr wyf yn ei wneud, fe gewch y cwbl gan Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd” (Effesiaid 6: 21). Anwyldeb a ffyddlondeb: yn ddi-os, dyma ddwy o’r rhagoriaethau yr oedd yn hawdd eu canfod ym mhlygion cymeriad Garfield Eynon.

Yn sicr yr oedd yn un o’r anwylaf. Â’i wên barod a’i gyfarchiad cynnes, digymell, byddai bob amser yn ein llonni, a does ryfedd yn y byd iddo fynd yn ddwfn i serch ei bobl. Âi yn agos atynt, gan ei uniaethu ei hun yn llwyr â hwy yn y lleddf a’r llon, mewn galar ac mewn gorfoledd. Gwyddai’r dioddefus a’r galarus y gallent bwyso arno yn ddifeth am gymorth a chefnogaeth, ac ar ben hynny meddai ar y ddawn brin honno i fynd i mewn i fyd plant a phobl ifanc, a hwythau, ym mhob un o’i eglwysi, yn ystyried ‘Mr. Eynon’ yn gyfaill yr oedd modd iddynt glosio ato a’i anwylo. Yr oedd parch mawr iddo ymhlith ei gydweinidogion, ac am flynyddoedd lawer bu’n un o fynychwyr cyson yr Ysgol Haf, pan gynhelid honno yn y Cilgwyn ac yna yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, a’i gyfraniad iddi bob amser yn sylweddol a threiddgar.

Afraid nodi iddo fod yn ‘weinidog ffyddlon’ i’r hwn a’i galwodd, a’r teyrngarwch hwnnw’n cael yn ei amlygu yn ei fugeiliaeth ofalus o’r praidd, ac yn arbennig yn ei baratoi meddylgar a chydwybodol ar gyfer gwasanaethau’r Sul. Ysgrifennodd yn llawlyfr eglwys y Tabernacl, 1983: “Uwchlaw pob dim diolchwn am ffyddlondeb i wasanaethau’r Sul; nid oes dim a all gymeryd lle cydgyfarfod, cydaddoli a chydgymuno” – ac yr oedd hynny’n fater o argyhoeddiad dwfn iddo. Tra yng Nghaerfyrddin, yn ychwanegol at ei ddyletswyddau fel gweinidog eglwys y Tabernacl, bu’n gaplan yr Eglwysi Rhyddion yn ysbytai Glangwili a Heol y Prior, ac yn fawr ei ofal am y deiliaid yng nghartref preswyl Argel. Rhwng 1980 a 1986 ef oedd ysgrifennydd ac arolygwr Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion, a’r swydd honno’n hawlio cyfran helaeth o’i amser ynghyd â’i allu fel trefnydd a chynghorydd i’r eglwysi. Cyflawnodd holl gyfrifoldebau’r gwaith yn drwyadl ac anrhydeddus.

Yn ystod y misoedd olaf ei fywyd yr oedd arwyddion amlwg fod ei nerth yn pallu, ac er i’r newydd am ei farw, dridiau cyn y Nadolig 2007, fod yn siom enfawr i bawb o’i gydnabod, nid oedd yn gwbl annisgwyl. Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Iau, 3 Ionawr, yng nghapel Amlosgfa Treforys, ac yna’n dilyn ar lan y bedd yn y fynwent oddi allan, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchg. Desmond Davies, yntau’n cael ei gynorthwyo gan y Parchgn. Melville H. Davies, E. Lyn Rees, Alun Petty, Wynn Vittle a Peter M. Thomas. Derbyniwyd ymddiheuriad oddi wrth nifer eraill o weinidogion a chyfeillion am eu hanallu i fod yn bresennol.

Yn ymadawiad Garfield Eynon collwyd gweithiwr gonest a chyfaill cywir, un a gadwodd yn ddiogel, trwy nerth yr Ysbryd Glân, y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i’w ofal (gw. 2 Timotheus 1: 14). Mawrhawn y fraint a gawsom o gael ei adnabod, o rannu ei gwmni, ac o wrando arno’n traethu ei genadwri, a rhoddwn ddiolch i Dduw am ei lafur diflin yn enw’r Meistr.

Cyfrannwr:  Desmond Davies

Llyfryddiaeth:

Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru 2009, tt. 85-86.

Ar  achlysur ei ymddeoliad yn Ionawr 1988, darllenodd Nansi Evans, cyfeilles oes ac ysgrifenyddes Eglwys Ramoth, Cwmfelin Mynach  y penillion hyn o’i gwaith ei hun

Am bron ddeugain mlynedd, pregethodd am Dduw,
Gweinidog ei bobl a’i law wrth y llyw.

Yng nghymoedd y Rhondda fe’i gwelwyd yn llanc
Ymhlith y gwerinwyr, cyn dyddiau eu tranc.

Fe gorir am Noddfa lle unwyd y ddau
Yr haul yn tywynnu a’r drws heb ei gau.

A chymoedd y De fu’n faes iddo’n hir
Cyn araf ddywchwelyd i froydd ein sir.

Rhydaman ac yna yr eglwys hardd hon –
Tabernacl Caerfyrddin – naw mlynedd ymron.

Bu’n tramwy’r ysbytai, ymwelodd â’r claf
A’i wen, fel ei flodau, yn serchog a braf.

Fe gofiwn am Garfield, y person a fu
Yn deyrngar i’r pethe sy’n bwysig i ni.

A Ramoth, ei gartref ysbrydol o hyd,
Fu’n gyfrwng i arwain ei daith yn y byd.