Jones – Edgar Owen (1912-1976)

Ganwyd Edgar Owen Jones ar 3 Mai, 1912, ar fferm Maes Gwilym, Carwe, yn un o bedwar plentyn i John ac Ann Jones.  Roedd ganddo ddau frawd, Gwynfor ac Elwyn, a chwaer, Awena. Addolai’r teulu yn Siloh, capel y Bedyddwyr yng Ngharwe. Y gweinidog yno yn nghyfnod ei blentyndod oedd y Parchg M.T. Rees, gŵr a gafodd ddylanwad mawr ar Edgar.

Derbyniodd ei addysg yn ysgol y pentref, cyn mynychu Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin.  Yn dilyn hynny bu yng Ngholeg Myrddin.  Roedd ffermio yn ei waed a dyna oedd ei wir ddiddordeb, nes iddo ymdeimlo â’r alwad i’r weinidogaeth. Yn 1936, cychwynnodd ar ei hyfforddiant yng Ngholeg Bedyddwyr De Cymru, Caerdydd a bu yno hyd at 1940.

Ordeiniwyd ef yng ngofalaeth Salem, Glan-y-fferi a Choed y Brain yn 1941, nid nepell o’i gartref, a blwyddyn yn ddiweddarach, priododd gyda May Davies, merch y Parchg a Mrs Jonathan Salisbury Davies, a oedd yn weinidog yn eglwysi Bedyddiedig Blaenffos a Crymych.  Ganwyd iddynt eu merch Rosmary yn 1943.  Bu Edgar yn ddedwydd ei fyd yng ngodre Sir Gâr am bedair blynedd ar bymtheg ac wrth ei fodd yn ymweld gydag aelwydydd yr eglwys.  Daeth dau o fechgyn ifanc yr eglwys i ddangos diddordeb i gynnig eu hunain fel gweinidogion sef John King a John Morgan.  Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, trodd John King at yr Eglwys Wladol a’i ordeinio yn ficer, tra bod John Morgan wedi cael ei sefydlu’n weinidog yn Salem, Llangyfelach.  Collodd yntau ei iechyd pan yn ŵr ifanc, a bu farw cyn bod yn hanner cant.

Yn 1960, derbyniodd Edgar alwad i weinidogaethu yng Ngharmel, Pontlliw, gan dreulio  tair blynedd gwta yno.  Dyma’r cyfnod y torrodd ei iechyd a threulio tri mis yn ei wely.  Roedd wedi cael trawiad ar y galon, a gorfu iddo bwyllo llawer.  Yn 1963, ymatebodd  i wahoddiad Carmel, Pontrhydfendigaid a Bethel, Swyddffynnon, gan dreulio cyfnod tebyg yng ngogledd Sir Aberteifi.  Serch hynny, dychwelodd i gylch Caerfyrddin ac ymsefydlu fel gweinidog yn Noddfa, Foelcwan a Bethania, Talog, llu bu’n uchel ei barch am un mlynedd ar ddeg. Daeth bachgen ifanc o’r enw Vivian Williams ato a derbyn anogaeth i fod o wasanaeth i’r eglwys.  Bu Vivian yn blisman cydwybodol gan dderbyn cyfrifoldebau sylweddol yn eu rhengoedd. Yn ddiweddarach yn ei oes, bu Vivian yn ysgrifennydd Bethel, eglwys y Bedyddwyr yn Glan-y-mor, Llanelli. Cyfrannodd yn sylweddol i weithgareddau’r Undeb a derbyn cyfrifoldeb llywydd yn 2011.  Yn ei anerchiad, diolchodd am ddylanwad Edgar Jones ar ei fywyd.

Arwahan i waith y weinidogaeth, roedd Edgar wedi magu diddordeb mewn clociau o bob math, a bu’n gymwynaswr i lu o aelodau’r eglwysi lle bu’n gwasanethu drwy rhoi bywyd newydd i’w clociau.  Roedd yn gerddor da, ac yn faswr cryf, gan fwynhau Cymanfaoedd Canu yn arbennig.

Er fod gan Edgar stydi helaeth o lyfrau, ystyriai ei hun yn fugail eglwys ac roedd wrth ei fodd yng ngwmni cyfeillion yn y weinidogaeth.  Ymhlith y cwmni hyn roedd W. O Williams, Cydweli; Brinley Reynolds, Gelliwen; W.M.Rees, Llangydeyrn; George Elias, San Cler a Glen Jones, Llandysul.   Bu  farw’n sydyn ar 17 Mawrth, 1976, yn 63 mlwydd oed. Cofir amdano fel cymwynaswr hynaws, yn fugail gofalus a fwynhaodd gymdeithasu gyda phobl ei ofalaethau, ac yn bregethwr da i Iesu Grist.

Cyfrannwr:  Rosemary Walters