Hughes – Idris (1937-2009)

Gŵr tawel a diymhongar oedd Idris Hughes a godwyd i’r weinidogaeth o dan arweiniad ei gyfaill, y Parchg Milton Jenkins, ond roedd wedi derbyn yr alwad ddwyfol flynyddoedd ynghynt. Ganwyd ef yn 1937 ym Mhenygroes, Arfon, ac yn un o dri phlentyn Edward ac Laura Hughes.  Roedd ei dad yn deiliwr diwylliedig a bu ef a’i briod yn cadw tŷ capel y Methodistiaid ym mhentref Carmel, pentref, nid nepell o Benygroes.  Addysgwyd Idris yn yr ysgolion lleol cyn iddo dderbyn prentisiaeth i fod yn saer coed

Ymdeimlodd ef â’r alwad i’r weinidogaeth a derbyniodd gyfle i gael hyfforddiant yng Ngholeg y Bala ac cyn mynd i’r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Yn anffodus, wynebodd Idris a’i deulu dristwch mawr pan bu farw ei dad, a bu’n rhaid iddo ildio ei gwrs diwiynddol er mwyn dychwelyd adref ac ail-gydio yn ei grefft, a hynny er mwyn cynnal ei deulu. Yn y cyfnod hwn, cyfarfu’r saer coed gydag Dorothy Griffiths, athrawes o Bontrhyd-y-fen, ac ymhen y rhawg, priodwyd y ddau yn 1964 yn ei phentref genedigol hi. Symudodd Idris i’r de, ac arfer ei grefft yno. Yn 1967, ymdeimlodd eto gyda llais Duw yn ei alw, ac agorwyd y drws iddo i fynd i Goleg y Bedyddwyr, Bangor, a chofrestrodd fel myfyriwr diwinyddol. O fewn blwyddyn dathlwyd genedigaeth Bethan Mair, eu plentyn cyntaf. Yn yr un flwyddyn sefydlwyd Idris yn weinidog mewn cylchdaith o bum eglwys yng ngogledd ddwyrain Ynys Môn a byw yn Amlwch. Dros y blynyddoedd hyn, parhaodd fel myfyriwr a gorffen ei gwrs. Yn 1970, symudodd i weinidogaethu yng nghylch Penparc, y Ferwig a Blaenwennen, ger Aberteifi, a chael cyfnod llwyddiannus a dedwydd yno. Yn ystod y cyfnod hwn y ganwyd Sioned, eu hail blentyn.

Pedair blynedd yn ddiweddarach yn 1974, gwahoddwyd ef i fod yn weinidog i gylch Pontarddulais ac ymhen y rhawg, ychwanegwyd eglwys Salem, Llangyfelach at ei faes. Bu yn yr ardal hon am 24 o flynyddoedd yn cynnig arweiniad a gofal i’w bobl. Bu’n amlwg yng ngwaith y Cwrdd Dosbarth a Chymanfa Gorllewin Morgannwg, a Dorothy yn gweithio fel athrawes ysgol gynradd.

Symudiad olaf Idris oedd i dref y Sospan a’i ordeinio yn 1998 yn eglwys Moreia, Llanelli, fel olynydd i’r Parchg Dewi Davies. Yn anffodus, cafodd ei orthrymu gan salwch ymhen naw mlynedd, a bu’n rhaid iddo ymddeol fel canlyniad i hyn. Bu’n olygydd Seren Cymru am gyfnod, gan fugeilio’r deunydd a ddaeth yngyhyd. Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau Undeb Bedyddwyr Cymru gan gyfrannu’n gytbwys a doeth, ac yn 2004 gwahoddwyd ef i fod yn Llywydd yr Undeb. Cynhaliwyd y cyfarfodydd blynyddol ym Moreia o barch iddo. Bu farw yn 2009.

Roedd wrth ei fodd yn pregethu ac o hyd yn perthnasu’r gwirionedd i amgylchiadau ei bobl. Nodwyd ei fod yn grefftwr gyda’i ddwylo ac yn y cyfnod olaf o’i fywyd, datblygodd ddoniau newydd drwy ymarfer y grefft o wneud siampleri. Cafodd nifer o gomisiynau i greu yr artistwaith celfydd hyn. Roeddent hwythau, fel popeth arall a wnaeth yn dystiolaeth o’i ofal a’i broffesiynoldeb. Cafodd bleser yn yr ardd, lle y gallai hamddena a thyfu llysiau a blodau i’r tŷ. Wynebodd sawl profedigaeth ar ei daith, ond bu’n gadarn ei ffydd a gofalus ym mhob dyletswydd. Roedd mor falch o’i ferched, Bethan fel cyfieithydd a golygydd llyfrau, a Sioned fel athrawes ysgol gynradd. Roedd ei wyrion yr un mor bwysig iddo, ond angor ei fywyd, arwahan i’w ffydd yn Iesu, oedd ei briodas gyda Dorothy. Diolch amdano.

Cyfrannwr : Denzil Ieuan John.