Davies – Alun John (1911 -1985)

Un o blant Eglwys Beulah, Cwmtwrch oedd Alun J. Davies, ac fel dau arall o’i frodyr, John Glyndwr a Gerson, ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth o dan ddylanwad pregethu y Parchg Glasnant Young.  Roedd gan Daniel a Jane Davies, Bryneithin, Cwmtwrch Isaf, ddeuddeg o blant  ac Alun oedd yr ieuengaf ond un.  Nodwn enwau’r plant i gyd yn nhrefn eu geni sef Ishmael, Tabitha, David R, Tom Alcwyn, Mary, Arianwen, David D, May, John Glyndwr, Gerson, Alun, a Gwladys.  Aeth Alun i Ysgol Gynradd y Gurnos, lle roedd Charles Edwards (Myfyr Mai) yn brifathro dawnus.  Gadawodd yr ysgol a mynd i weithio ym mhwll glo Tai’r Gwaith ac yn y cyfnod hwn yr ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth a chael lle yn Ysgol Baratoi yn Ilston, Caerfyrddin. Collodd flwyddyn arall pan dioddefodd o haint y darfodedigaeth (TB).  Wedi gwella, cam nesaf Alun oedd cael ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg Bedyddwyr, Bangor, a datblygu ei ddoniau fel diwinydd a phregethwr.  Ym Mangor y cyfarfu â un a fu’n gyfaill agos iddo, gydol oes, sef y Parchg E.M.Thomas a fu’n weinidog yn Resolfen, Llangenech, Caerffili, Camrose a Glynnedd, cyn ymddeol yn ardal Wrecsam.

Yn ystod ei yrfa bu Alun Davies mewn pum gofalaeth, a hynny yn y cymoedd ac yn y wlad.  Ordeiniwyd ef i’r weinidogaeth a’i sefydlu yn olynydd i’r Parchg Ben Williams yn 1938, ym Methel, Abernant, Aberdar.  Roedd hi’n adeg rhyfel tra bu yno, a soniai am y tyrfaoedd yn heidio i’r Cyrddau Gweddi ac aelodaeth yr eglwysi yn gyffredinol yn uchel.  Yn y cyfnod hwn y priodwyd ef â Buddug Arianwen Davies, a bu’n briodas dedwydd ar hyd y degawdau nes ei farw ef yn 1985. Ganwyd Berwyn, eu hunig fab, yn Abernant, un a gafodd yrfa lwyddiannus fel cyfreithiwr ymhen y rhawg.

Diwedd y rhyfel, derbyniodd alwad i Nazareth, Eglwys y Bedyddwyr yn yr Hen Dŷ Gwyn, ac eglwys Bwlchgwynt, a threuliodd naw mlynedd yn y fro honno ar lan yr afon Tâf. Gwnaeth nifer o ffrindiau oes ymysg yr aelodau, er na chafodd amser gwbl ddedwydd yno chwaith. Y cam nesaf ar ei daith oedd symud i Eglwys Ainon, Heol Las, yn Llansamlet ar gyrion Abertawe, gan fwynhau naw mlynedd dedwydd a llwyddiannus yn eu plith.  Adeiladwyd festri a mans newydd yn y cyfnod hwn, ac roedd yr eglwys ei hun wedi cryfhau dros y ddegawd. Dyma oedd ei weinidogaeth mwyaf dedwydd ac roedd parch sylweddol iddo yn Llansamlet, ac roedd ei gariad o Ainon yn sylweddol iawn, weddill ei oes.

Ar ôl bod ar ymyl tre fawr ddiwydiannol, ymdeimlodd â gwahoddiad aelodau Eglwys Brynhyfryd, yng nghymuned Treharris, i’r de o Ferthyr, yn 1965 ac ail-ddychwelyd i Gymanfa Dwyrain Morgannwg.  Yma trefnodd Gyfarfodydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1968 gyda’r Cyn-brifathro y Parchg  J Williams Hughes yn cadeirio’r cynadleddau, a’r Parchg E. Tudno Williams yn traddodi ei anerchiad o’r gadair.  Symud fu ei hanes eto ymhen saith mlynedd a’r tro hwn i Eglwys Calfaria, Aberdar. Fel yn ei ofalaethau eraill, bu’r gynulleidfa yno yn ddiolchgar am bregethu graenus ac adeiladol y cyn-löwr o Gwmtwrch.  Ymddeolodd yn swyddogol yn 1977, er nid oedd wedi ymddeol chwaith o’i angerdd i bregethu a’i awydd i gefnogi gwaith yr eglwysi.  Bu’n Arolygwr y Gymanfa am gyfnod ac yn parhau i wasanaethu amrywiol bwyllgorau o Undeb Bedyddwyr Cymru. Trysorodd gael  pregethu ym mhrifwyl yr Undeb gan wneud hynny deirgwaith, fel y gwerthfawrogai y fraint o bregethu i’r cynulleidfaoedd bychan yn y cymoedd.  Roedd y tri brawd yn bregethwyr safonol, a ddefnyddient iaith goeth gan feddu’r ddawn i daflu eu lleisiau heb angen cyfarpar uchelseinyddion.

Pregethu oedd ei ddileit, ac er ei fod wedi magu hoffter o bysgota yn ystod ei gyfnod yn yr Hen-dŷ-gwyn ac yn Llansamlet, gwerthfawrogi’r llonyddwch a wnai wrth eistedd ar lan yr afon i fyfyrio a rhoi trefn ar ddeunyddau ei bregethau. Yn yr un modd, cawsai bleser o wylio rygbi, er efallai nad oedd ei feddwl wastad ar y bêl-hirgron, gyda’i feddwl o hyd ar destun pwysicach o lawer.  Os pregethu oedd ei brif bleser, yna cwmni pregethwyr oedd agosaf at ei galon. Mewn darn amdano yn Llawlyfr 1987 dywed y Parchg Vincent Watkins, cymaint ei ddyled am gefnogwr cyson, cyfaill cywir ac am gennad Crist.  Gwelodd yn dda i ymddiddori yn natblygiad y gweinidogion ifanc,  a mwynheuai wrando ar ddoniau newydd a’i meithryn yn y gwaith.  Coffa da o gyfaill cywir.

Cyfrannwr:
Denzil Ieuan John